Mae dau o wleidyddion Plaid Cymru yn annog pob llywodraeth i “ddangos arweiniad rhyngwladol” drwy alw am gadoediad yn y frwydr rhwng Israel a Phalesteina yn Gaza.

Mewn datganiad, dywed Hywel Williams, llefarydd rhyngwladol y blaid, a Sioned Williams, y llefarydd cyfiawnder cymdeithasol, fod yna “argyfwng dyngarol catastroffig sy’n gwaethygu” yn Gaza.

Maen nhw’n cyfeirio at ddiffyg cyflenwadau meddygol, tanwydd a dŵr, gan annog llywodraeth i “sefydlu coridorau” er mwyn cludo cefnogaeth ddyngarol yno.

“Mae’n rhaid i’r gymuned ryngwladol ddwysáu’r ymdrechion i sefydlu coridorau cymorth er mwyn sicrhau cyflwyno cefnogaeth ddyngarol mewn modd amserol a diogel,” meddai’r ddau.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru chwarae ei rhan, fel llywodraeth eraill ledled y Deyrnas Unedig, drwy wneud cyfraniad tuag at y cymorth mae dirfawr ei angen, wrth i fywydau sifiliaid barhau i gael eu colli’n ddiangen.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddechrau’r gwaith o greu cynllun adleoli ffoaduriaid hefyd i’r rheiny yn Gaza sydd eisiau ac sy’n gallu gadael.

“Rhaid i’r gymuned ryngwladol ddefnyddio’r holl offerynnau sydd ganddyn nhw i warchod sifiliaid rhag marwolaeth a dinistr.”