Mae pennaeth ysgol gynradd yn Sir Benfro, a ffugiodd ganlyniadau profion ei disgyblion, wedi cael ei gwahardd rhag dysgu am ddwy flynedd.

Cafwyd Shan Harries, 47 oed, oedd yn brifathrawes ar Ysgol Gynradd Eglwyswrw, yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol mewn gwrandawiad Cyngor y Gweithlu Addysg heddiw.

Clywodd y panel ei bod wedi newid canlyniadau profion disgyblion blwyddyn 6 ym mis Rhagfyr 2013 er nad oedd “unrhyw dystiolaeth” eu bod wedi cyrraedd y safon ddisgwyliedig.

Dywedodd Shan Harries ei bod wedi teimlo dan bwysau ar ôl i Estyn osod targedau newydd ar gyfer profion ysgrifenedig Cymraeg.

Roedd ei chyflogaeth â Chyngor Sir Benfro wedi dod i ben ym mis Mai 2015 a doedd dim sylwadau pellach gan y cyngor i wneud ynghylch y dyfarniad heddiw.