Mae drysau Eglwys Gadeiriol Tyddewi wedi’u cloi am hyd at dri diwrnod er mwyn ethol Esgob newydd.
Mae’r Gadeirlan ar gau wrth i goleg o 47 o bobol sy’n cynrychioli eglwysi o bob rhan o Gymru gwrdd y tu mewn i enwebu a phleidleisio ar restr gyfrinachol o ymgeiswyr i fod yn Esgob nesaf Tyddewi.
Mae’r etholiad yn dilyn ymddeoliad Joanna Penberthy, a wasanaethodd fel Esgob Tyddewi am chwe mlynedd.
Yr esgob newydd fydd Esgob Tyddewi rhif 130, a hithau’n esgobaeth sy’n cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Cyhoeddiad wrth y drws gorllewinol
Caiff yr ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad eu henwebu yn y cyfarfod, gyda thrafodaeth a phleidlais i ddilyn.
Caiff unrhyw ymgeisydd sy’n derbyn dau draean o bleidleisiau’r rhai sy’n bresennol ei ddatgan yn Ddarpar Esgob.
Fel arall, bydd y Coleg yn dychwelyd i’r cam enwebu, a’r cylch yn ailddechrau o’r newydd.
Unwaith mae penderfyniad yn cael ei wneud, bydd y Gadeirlan yn ailagor a bydd Archesgob Cymru, Andrew John, yn cyhoeddi enw wrth y drws gorllewinol.
Y broses o ethol a chysegru
Mae gan y Coleg Etholiadol hyd at dridiau i wneud penderfyniad; os yw’n methu ethol unrhyw un ar ôl hynny, bydd y penderfyniad yn symud i’r Fainc Esgobion.
Unwaith caiff Esgob ei ethol, bydd ganddo fe neu hi hyd at 28 diwrnod i dderbyn y swydd.
Pe bai’n derbyn y swydd, caiff yr etholiad ei gadarnhau’n ffurfiol mewn gwasanaeth Synod Cysegredig yn fuan wedyn. Yna, caiff yr esgob newydd ei gysgegru neu ei chysegru yng Nghadeirlan Bangor, sedd Archesgob Cymru ar hyn o bryd.
Dechreuodd y cyfarfod heddiw drwy ddathlu’r Ewcharist Sanctaidd yn y gadeirlan am 9.30yb, gyda chroeso i bawb.