Y darlledwr a newyddiadurwr Rhodri Davies sydd wedi’i ddewis i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Llanelli ar gyfer etholiadau nesaf San Steffan.
Daw o Ben-y-Mynydd ger Trimsaran yn wreiddiol, a bu’n gweithio fel barman, casglwr sbwriel ac athro cyn dilyn gyrfa yn y cyfryngau.
Mae e wedi gweithio i’r BBC, ITV a chwmni cynhyrchu Tinopolis, sydd wedi’i leoli yn Llanelli.
Ei uchelgais fel ymgeisydd yw cyflwyno dyfodol clir ar gyfer ei dref enedigol, yn seiliedig ar uniondeb, ymddiriedaeth a gwir ddealltwriaeth leol.
“Cefais fy magu gydag un droed wedi’i phlannu’n gadarn yn Fferm Ceidrim, Trimsaran a’r llall wedi’i phlannu yr un mor gadarn yn Heol y Drindod, Doc Newydd, Llanelli,” meddai.
“Mae’r lleoedd hynny’n golygu teulu, hunaniaeth, gwreiddiau a chymuned – fe wnaethon nhw fi yr hyn ydw i.
“Yr hyn nad ydw i yw gwleidydd ar sail gyrfa – rwy’ wedi treulio fy mywyd yn gweithio tu allan i unrhyw swigen wleidyddol.
“Mae’r bobol rwy’n siarad â nhw yn dweud wrthyf fod hynny’n newid adfywiol a braf.”
Diffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddion
Ychwanega Rhodri Davies ei fod yn deall pam fod pobol yn aml yn brin o ymddiriedaeth mewn gwleidyddion, pan fo San Steffan sydd allan o gysylltiad yn methu â rhoi buddiannau lleol yn gyntaf.
“Mae datganoli yn ei ffurf bresennol wedi ein gadael ni ar ôl, rydym yn dal yn gaeth ac eto heb y modd, y deddfau na’r cyllid i wella ein hunain,” meddai.
“I Lundain – a mewn gwirionedd i Lafur yn ogystal â’r Torïaid – mae Cymru yn parhau i fod yn eilradd. Mae’n rhaid i hynny newid.
“Rydw i eisoes yn gwrando ac yn dysgu wrth bobl ledled Llanelli a Chwm Gwendraeth fel y gallwn rhoi eu diddordebau a’u gobeithion yn gyntaf a meithrin dyfodol cadarn i’r ardal hon gyda’n gilydd.
“Rwy’n credu ein bod ni’n haeddu gwell ac y gallai ac y dylai Llanelli fod y lle rydym i gyd yn breuddwydio amdano: uchelgeisiol, llewyrchus a llawn syniadau ac egni.
“Mae Llanelli a Chwm Gwendraeth yn cynnig cymaint o gyfleoedd, mae’n droseddol i beidio â gwneud y mwyaf ohonyn nhw.”
Codi uchelgais ac adeiladu cyfleoedd lleol
Wedi’i ddisgrifio fel “bachgen a ffurfiwyd gan Gwm Gwendraeth a dyn a grëwyd gan Lanelli”, mae Rhodri Davies yn credu mai nawr yw’r amser i godi uchelgais ac adeiladu cyfleoedd yn lleol.
“Rydw i eisiau gwneud gwahaniaeth bob dydd, i ail-sefydlu ymddiriedaeth a gobaith o fewn y gymuned hon,” meddai.
“Mae ein profiadau diweddar yn nwylo San Steffan pell wedi bod yn ddinistriol – enghraifft berffaith o pam mae angen i ni yng Nghymru sefyll lan dros ein hunain.
“Trwy gymryd cyfrifoldeb, gyda’n gilydd, gallwn a byddwn yn adeiladu dyfodol gwell.”