Simon Lewis
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymddiheuro ar ôl i bornograffi gael ei chwarae ar gam yn ystod angladd tad a’i fabi fu farw mewn gwrthdrawiad.
Bu farw Simon Lewis, a’i fab Simon, yn dilyn gwrthdrawiad yn Lamby Way, Caerdydd ar Nos Galan.
Roedd cannoedd o alarwyr “mewn sioc” ar ôl i’r fideo gael ei dangos yn ystod gwasanaeth yn Amlosgfa Thornhill yn y ddinas.
Mae Cyngor Caerdydd, sy’n rhedeg yr amlosgfa, wedi ymddiheuro am y digwyddiad ac wedi dweud y bydd yn cynnal ymchwiliad.
‘Sgrin newydd’
Dywedodd llefarydd: “Cafodd pedwar sgrin deledu eu defnyddio i ddangos teyrngedau fel rhan o’r gwasanaeth.
“Roedd y sgrin lle cafodd y deunydd amhriodol ei ddangos wedi ei roi yno’n ddiweddar, gan gymryd lle sgrin oedd wedi torri.
“Rydym yn ceisio darganfod a allai’r sgrin newydd fod wedi derbyn darllediad ar gam drwy bluetooth neu’r rhwydwaith wifi.
“Nid oedd y tair sgrin arall wedi’u heffeithio.
“Nid yw’n bosib i unrhyw aelod o staff chwarae neu lawr lwytho unrhyw beth o gyfrifiadur sy’n cysylltu’r sgrin i’r capel.”
Mae’r sgrin bellach wedi cael ei ddatgysylltu meddai nes bod peirianwyr yn gallu cynnal ymchwiliad llawn.
“Hoffwn gymryd y cyfle yma i anfon ein hymddiheuriadau dwysaf i’r teulu a’r galarwyr yn yr angladd.”
Gwrthdrawiad
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar 31 Rhagfyr pan fu car Daihatsu Sirion teulu Simon Lewis mewn gwrthdrawiad a char Peugeot 307 glas.
Bu farw Simon Lewis, 33, yn y fan a’r lle. Cafodd ei wraig, Amanda, a oedd yn feichiog ar y pryd, a’i ferch 3 oed Summer eu cludo i’r ysbyty. Bu’n rhaid i Amanda gael llawdriniaeth frys i roi genedigaeth i’w babi ond bu farw’n ddiweddarach ar 3 Ionawr.
Mae Kyle Kennedy, 29, wedi cael ei gyhuddo o achosi dwy farwolaeth drwy yrru’n beryglus, cymryd cerbyd heb ganiatâd, gyrru tra wedi’i wahardd, a gyrru heb yswiriant.
Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn mynd gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 5 Chwefror.
‘Gwarthus’
Dywedodd y Parchedig Lionel Fanthorpe, fu’n cynnal y gwasanaeth ddydd Mercher, bod y digwyddiad wedi peri loes i deulu Simon Lewis a dywedodd un o’r galarwyr, nad oedd am gael ei enwi, bod y fideo yn “hollol warthus.”
“Fe gymrodd tua phedair neu bum munud cyn iddyn nhw allu ei droi i ffwrdd. Nid oedd unrhyw un yn gallu credu’r hyn roedden nhw’n ei weld.
“Mae teulu Simon wedi bod drwy uffern heb orfod cael rhagor o loes.”
Mae’r ymgymerwyr angladdau James Summers a’i Fab wedi galw ar Gyngor Caerdydd i gynnal ymchwiliad llawn.