Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb
Mewn araith heddiw, mae disgwyl i Ysgrifennydd Cymru ddadlau ei achos dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd ond gan bwysleisio hefyd bod diwygio’r berthynas gydag Ewrop yn ‘bwysig iawn’.
Wrth annerch arweinwyr busnes yng Nghlwb Busnes Caerdydd, bydd Stephen Crabb yn dweud nad yw’r ‘sefyllfa bresennol’ yn Ewrop yn ddigon da.
“Os yw trafodaethau’r Prif Weinidog yn llwyddiannus a’i fod yn sicrhau’r diwygiadau y mae wedi cyflwyno, yna dwi’n credu y bydd o fudd i’r DU aros mewn Undeb Ewropeaidd ddiwygiedig,” meddai Stephen Crabb.
“Tan nawr, mae’r ddadl wedi cael ei rhoi gan y ddwy ochr fwyaf eithafol – o’r safbwynt bod yr UE wedi bod yn drychineb i Brydain (ac felly Cymru) ac o’r safbwynt arall sy’n dweud bod Cymru rhywsut wedi’i chysylltu’n uniongyrchol gydag economi’r UE.”
Mae disgwyl iddo ddweud na fyddai’r ddadl dros aelodaeth Prydain o’r UE yn cael ei hennill na’i cholli drwy “ddadleuon eithafol.”
‘Sefyllfa bresennol Ewrop ddim yn ddigon da’
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, mae “busnesau ledled Prydain – ac yng Nghymru – yn cefnogi dull y Prif Weinidog.”
“Maen nhw’n cydnabod nad yw’r sefyllfa bresennol yn ddigon da,” meddai, “Mae’r achos dros Gymru yn aros yn yr UE yn gorfod cael ei ennill ar ddadleuon cryfach.”
“Credaf fod y trafodaethau hyn (ar ddiwygio Ewrop) o bwys mewn ffyrdd pwysig iawn, iawn – ac mae’n bwysig i Gymru.”
Mae David Cameron yn gobeithio taro bargen gydag arweinwyr Ewropeaidd eraill mewn uwchgynhadledd ym Mrwsel ar 18 Chwefror i berswadio pobol i bleidleisio dros aros yn yr UE.