Fe fydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi safonau ysgolion yng Nghymru heddiw.
Y llynedd, daeth system newydd o raddio ysgolion i rym lle mae ysgolion yn cael ei rhoi mewn categorïau lliw.
Roedd y mesur newydd yn cymryd lle’r system fandio ddadleuol ac yn gweld ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael eu graddio am y tro cyntaf.
Ond mewn llythyr agored at y Gweinidog Addysg Huw Lewis mae llywodraethwyr ysgolion cynradd yng ngogledd a chanolbarth Cymru wedi dweud fod y system newydd o raddio yn annheg i ysgolion llai.
Yn ôl y llythyr, fe allai perfformiad un disgybl mewn ysgol fach, gyda llai na 100 o ddisgyblion, olygu’r gwahaniaeth rhwng dau gategori.
‘Annibynadwy’
Dywedodd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Eglwysbach yn Nyffryn Conwy, ar y Post Cyntaf y bore ma fod y dull newydd yn “annibynadwy”.
Meddai: “Da ni’n annog y Gweinidog Addysg i adolygu’r sefyllfa a da ni’n teimlo fod meincnodi yn seiliedig ar ganrannau yn gwbl gamarweiniol wrth drafod ysgolion bychain.
“Ambell dro gall blwyddyn fod cyn lleied â chwech neu bump felly mae un plentyn yn gallu cynrychioli 20% o’r canran. Da ni’n gweld felly, os ‘di un plentyn ddim yn cyrraedd y safonau disgwyliedig, ei fod o’n gallu creu niwed mawr i’r data.”
Bwriad y system newydd, meddai Huw Lewis, yw gwella perfformiad a safonau mewn ysgolion.
Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach heddiw gydag ysgolion yn cael eu rhoi mewn categori lliw – gwyrdd sy’n perfformio orau, melyn yn dda, oren sydd angen gwella ac ysgolion coch sydd angen y gwelliant mwyaf – ac yn cael eu hasesu dros gyfnod o dair blynedd yn lle un.