Bydd fasau Eidalaidd sy’n hŷn na’r Ymerodraeth Rufeinig yn cael eu dangos ger y Trallwng yr wythnos hon.

Fe fydd y chwe fâs 2,000 mlwydd oed yn cael eu glanhau yng Nghastell Powys a bydd cyfle gwell nag arfer i ymwelwyr eu gweld nhw.

Mae’r fasau, sy’n dyddio’n ôl i 350 Cyn Crist, yn cael eu cadw ar silff uchel yn y llyfrgell, ac maen nhw’n cael eu glanhau tua unwaith bob deng mlynedd, er eu bod nhw’n cael eu brwsio’n flynyddol.

Maen nhw ymhlith y darnau hynaf yng Nghastell Powys, ac maen nhw’n darlunio pobol, diwylliant a mytholeg Roegaidd.

Rhwng y gwaith glanhau, fydd yn cael ei wneud gan dîm o gadwraethwyr tan Hydref 10, bydd y fasau’n cael eu goleuo er mwyn i bobol allu gweld y gwaith paentio a’r ffigurau coch arnyn nhw.

Maen nhw’n deillio o Etruria, rhan o’r Eidal hynafol, er mai Groegaidd ydyn nhw o ran traddodiad.

“Pleser yw gallu cynnig cyfle unwaith mewn degawd i’n hymwelwyr gael golwg fanylach ar y fasau Etrwsgaidd cain a gwylio’r gwaith cadwraeth drwy eu llygaid eu hunain ym Mhowys,” meddai Alex Turrell, Uwch Swyddog Tŷ a Chasgliadau Castell a Gardd Powys.

“Mae’r gwaith o ddystio a glanhau yn ddiddiwedd wrth i ni ofalu am y casgliadau hyn, ond caiff gwrthrychau bregus, fel y fasau, eu glanhau yn llai aml.

“Mae’n rhyfeddol bod y fasau hyn wedi’u cadw’n llwyddiannus am ddau fileniwm, ac rydym yn hynod falch o allu rhannu’r achlysur cyffrous hwn gydag ymwelwyr.”

‘Braint eu trin’

Bydd hi’n cymryd tua phum awr i gadwraethwyr a’r Tîm Casgliadau a Thŷ ym Mhowys asesu a glanhau pob fâs.

“Rydym yn defnyddio brwshys â blew wedi’u gwneud o wallt meddal merlod a sabl a ‘sbyngau mwg’ rwber naturiol, er mwyn sicrhau ein bod yn glanhau’n effeithiol ac yn gofalu am yr addurn bregus,” meddai Lynne Edge, cadwraethwr cerameg arbenigol fydd yn cynorthwyo’r gwaith.

“Braint ac anrhydedd yw trin gwrthrychau hynafol mor brydferth.

“Yn aml, gallwch weld olion bysedd y gwneuthurwr gwreiddiol, sy’n arwydd o hanes y gwrthrych wrth i mi weithio i sicrhau ei ddyfodol.”

Mae’n debyg bod y chwe darn wedi cyrraedd Castell Powys wedi i Iarll Powis ac eraill fynd ar daith â Clive o India i’r Eidal yn y 1770au neu 1780au.

Mae’r fasys yn cael eu cadw yn nhop y llyfrgell fel arfer