Mae lle i gymunedau cefn gwlad Cymru fynnu gwasanaethau trafnidiaeth well, yn ôl Ben Lake.
Dywed Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion fod hynny’n “symleiddio pethau”.
“Rydym yn talu i mewn i’r un pot, ond rydym ni’n cael cymaint o wahaniaeth o ran ansawdd gwasanaethau,” meddai wrth golwg360.
Dywed hefyd y dylai’r £5bn sy’n ddyledus i Gymru yn dilyn gohirio prosiect HS2 gael ei ailfuddsoddi yn seilwaith trafnidiaeth y wlad.
“Mae’r arian ddylen nhw fod wedi bod yn neilltuo tuag at Gymru yn arian ddylai fod wedi, yn fy marn i, gael ei wario ar y rhwydwaith ac isadeiledd trafnidiaeth,” meddai.
“Rydw i’n dweud hynny oherwydd, er mwyn i unrhyw wlad ffynnu, mae angen y cysylltiadau trafnidiaeth hynny.
“Un ai eu bod nhw’n drenau neu, wrth gwrs, yn wasanaethau bysus fel bod pobol yn gallu cael mynediad at wasanaethau hanfodol megis gwasanaethau iechyd, mynd i addysg, apwyntiadau gwahanol ac, wrth gwrs, gwaith a chyfleoedd hamdden.”
“Ein hisadeiledd trafnidiaeth mor ddrwg”
Dywed ei fod yn deall pam fyddai rhai yn dadlau dros ddyrannu ychydig o’r arian hwnnw i flaenoriaethau eraill megis addysg neu iechyd, ond byddai’n “gyndyn i ddweud hynny” ei hun.
“Mae ansawdd ein hisadeiledd trafnidiaeth mor ddrwg fi wir yn credu bod angen gwario’r holl arian i’w wella,” meddai.
“Rwy’n derbyn na fyddai pob ceiniog efallai yn mynd ar isadeiledd rheilffordd a gwasanaethau trên.
“Rydw i’n credu ei fod o’n bwysig iawn bod rhywfaint ohono fo’n cael ei drosi draw i dalu am bethau fel canolfannau bysus newydd, gorsafoedd newydd a gwasanaethau newydd.
“Ar ddiwedd y dydd, gallwch chi gael y gwasanaeth iechyd gorau yn y byd, ond os nad yw pobol ym mhentrefi bach gwledig Ceredigion yn gallu cael mynediad ato fo efallai bydd o ar y lleiaf.”
Digon o alw i gysylltu Aber a Chaerfyrddin?
Mae ymgyrch wedi bod i ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn ddiweddar, ond mae rhai yn pryderu nad oes digon o alw i gyfiawnhau’r penderfyniad.
Er bod Ben Lake yn credu ei bod yn “anodd iawn gwybod” beth fydd yr alw, mae’n credu mai’r ffordd orau ymlaen yw edrych ar enghreifftiau o ailagor rheilffyrdd tebyg, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban.
“Roedd pobol yn cwestiynu faint o werth oedd i ailsefydlu’r rheilffordd yn fanno [yr Alban], ac yn dadlau fyddai neb yn defnyddio’r gwasanaeth,” meddai.
“Ond yn fuan ar ôl ailagor y rheilffordd, ddaru nhw gael pen tost annisgwyl, hynny yw roedd cymaint yn defnyddio’r gwasanaeth trên, roedd angen trafod ystyried ffyrdd o ddatblygu ac ehangu’r gwasanaethau rheilffordd.
“Felly rydw i’n cydnabod ei fod o’n sefyllfa annelwig oherwydd caewyd y rheilffordd yn ôl yn y ‘60au.
“Felly, mae pobol wedi ymgyfarwyddo gyda defnyddio’r car a’r bysus.
“Y cyd-destun yw, yn amlwg mae’n anodd gwybod faint o alw fydd yno, ond gallwn ni edrych ar enghreifftiau fel yr Alban ble, pan mae’r rheilffordd yn cael ei hailgyflwyno, mae pobol yn ei ddefnyddio fe.”
Cysylltu trefi Ceredigion
Dywed mai’r peth pwysicaf yw sicrhau “bod yna gysondeb ar hyd y gwasanaethau” a’u bod nhw’n cael eu rhedeg yn effeithiol.
“Felly, rydyn ni yn meddwl bod yna fantais i ailsefydlu’r llinell rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin,” meddai.
“Bydd yn golygu, yng Ngheredigion er enghraifft, y bydden ni’n gallu aildrefnu a chynllunio ein system bws ni fel ein bod ni’n defnyddio gorsafoedd trên fel canolfannau trafnidiaeth leol.
“Bydd yn dod â phobol i mewn i’r trefi ac yn eu cysylltu gyda’i gilydd.
“Ond hefyd, wrth gwrs, cysylltu tair tref prifysgol Llanbed, Caerfyrddin ac Aberystwyth a dau ysbyty ym Mronglais a Glangwili.
“Felly, mae yna nifer fawr o fanteision i ailsefydlu.”
Fodd bynnag, dywed ei bod hi hefyd yn anodd gwybod faint o alw sydd yno i wasanaethau bysus, ond nad yw hynny yn golygu bod angen eu diystyru.