Yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yr wythnos ddiwethaf, bu i’r Prif Weinidog Rishi Sunak amlinellu rhai o’r polisïau a newidiadau yr hoffai eu gweld yn cael eu gwireddu.
Un o’r rheiny oedd gwahardd ysmygu mewn ffordd debyg i’r hyn sydd eisoes ar waith yn Seland Newydd, sef trwy gynyddu’r oedran ysmygu bob blwyddyn.
Byddai hynny’n golygu na fydd y rheiny sy’n 14 mlwydd oed ar hyn o bryd fyth yn ddigon hen i brynu sigaréts.
Dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru ei fod “yn syniad diddorol”.
Cyn ei amser yn arweinydd, bu’r gwleidydd yn llefarydd iechyd ar y blaid.
“Rydw i’n meddwl beth sydd angen i ni gofio yn fan hyn yw bod ysmygu wrth gwrs yn un o’r heriau iechyd mwyaf rydyn ni yn ei wynebu,” meddai wrth golwg360.
“Mae Cymru eisoes wedi bod yn flaenllaw iawn mewn cymryd y camau i geisio lleihau faint sydd yn ysmygu.
“Mi fydden ni wedi bod yn y wlad gyntaf, rydw i’n meddwl, i gyflwyno gwaharddiad ar ysmygu dan do heblaw bod y Llywodraeth yn San Steffan wedi ein gwahardd ni rhag gwneud hynny ac roedd yn rhaid i ni aros i Loegr wneud hynny.
“Mae’n rhaid i ni leihau faint o bobol sy’n ysmygu ac wrth gwrs mae angen i ni edrych ar wahanol opsiynau ar sut i wneud hynny.”
Hwyl fawr HS2
Pwnc llosg arall oedd gohirio’r prosiect HS2, a’r £5bn sy’n ddyledus i Gymru o ganlyniad.
“Rydw i’n siarad lot yn y gynhadledd yma am sefyll i fyny dros degwch a thros uchelgais i Gymru,” meddai.
“Mae saga HS2 o bosib yn un o’r enghreifftiau hawsaf i bobol i ddeall o’r annhegwch mae Cymru wedi ei wynebu.
“Mae’r Ceidwadwyr wedi gwrthod talu’r arian sy’n ddyledus i Gymru a Llafur hefyd wrth gwrs yn gwrthod gwneud adduned i dalu’r arian sy’n ddyledus i Gymru.
“Mae’n anodd gorbwysleisio faint fydden ni’n gallu ei wneud i ddatblygu ein systemau trafnidiaeth ni’n Gymru drwy ddefnyddio cyfran o hwnnw.
“Gallwn ni drydaneiddio rheilffyrdd Cymru i gyd, mi allwn ni fuddsoddi yn ein rhwydweithiau bysus ni ar draws Cymru.”
Felly, ydy’r arweinydd yn credu y dylid buddsoddi’r holl arian sy’n ddyledus o HS2 yn seilwaith trafnidiaeth Cymru?
“Wrth gwrs arian i’w benderfynu arno fo gan Senedd a Llywodraeth Cymru ydy hon,” meddai.
Er hynny, dywed nad oes ganddo “ddim amheuaeth bod datblygu ein hisadeiledd ni yn flaenoriaeth wirioneddol i Gymru.”
Wylfa newydd?
Ychydig ddyddiau cyn cynhadledd y Torïaid, bu i Rishi Sunak hefyd awgrymu’r posibilrwydd y bydd Wylfa yn gartref i atomfa niwclear newydd y Deyrnas Unedig.
Ond nid yw Rhun ap Iorwerth yn hyderus mai dyma fydd yn digwydd.
“Fel HS2, rydyn ni wedi cael addewid yr wythnos yma y bydd rheilffordd y gogledd yn cael ei drydaneiddio,” meddai.
“Rydyn ni i gyd yn gwybod mai addewid wag ydi hwnnw.
“Rydyn ni’n gwybod go iawn mai cyhoeddiad gwleidyddol oedd hwnna, nid cyhoeddiad ynglŷn â thrafnidiaeth.
“Dyna ydy’r peryg hefo Wylfa hefyd, ein bod ni yn cael cyhoeddiadau gwleidyddol yn codi gobeithion pobol bod hi’n bosib symud ymlaen efo Wylfa yn syth.”
Dywed y bydd yn “cario ymlaen i weithio’n bositif er mwyn gweld beth ydy’r cyfleoedd yn Wylfa.”
“Ond mae gennym ni bethau eraill rydyn ni’n gallu eu canolbwyntio arnyn nhw rŵan yn Ynys Môn mewn ynni mor ac yn y blaen ble mae swyddi yn gallu cael eu creu heddiw,” meddai.