Bydd grwpiau YesCymru ledled y wlad yn tynnu sylw at ymgyrch Ystâd y Goron y mudiad y penwythnos hwn.
Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod y rhent sy’n cael ei gasglu gan Ystâd y Goron yng Nghymru tua £603m y flwyddyn, a’r holl elw’n mynd i Lywodraeth San Steffan a theulu brenhinol Lloegr.
Ymysg y criwiau sy’n galw ar Lywodraeth San Steffan i drosglwyddo’r arian sy’n cael ei gasglu o’r ystâd yng Nghymru i Lywodraeth Cymru mae YesCymru Bro Ffestiniog, fydd yn cerdded i ran o’r fro sy’n eiddo’r Goron.
Ddydd Sul (Hydref 8), bydd aelodau YesCymru Bro Ffestiniog yn cerdded i lan Llyn Manod i dynnu sylw at y mater, a bydd nifer fawr o ymgyrchoedd eraill yn cyfarfod ar draethau’r wlad.
Mae eiddo Ystâd y Goron yng Nghymru yn cynnwys gwely’r môr o amgylch yr arfordir, traethau, aberoedd, afonydd a llawer o dir comin.
‘Lladrad pur’
Bydd ymgyrchoedd i’w gweld o’r Rhyl yn y gogledd i Ferthyr Mawr ger Pen-y-bont ar Ogwr, gyda grwpiau’n creu celf â thywod ar nifer o’r traethau i dynnu sylw at “annhegwch” y sefyllfa bresennol.
“Mae hi’n hen bryd i’r lladrad pur yma gan ein cymdogion ddod i ben,” meddai Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr YesCymru.
“Tir, mynyddoedd a moroedd y sawl sy’n byw a bod yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn eiddo i Ystâd y Goron.
“Rhaid cael gwared â Stâd y Goron, sydd fel gelen yma sydd yn sugno gwaed Cymru a dychwelyd y cyfan i’n dwylo ni heb oedi.
“Dychwelyd i Gymru yr hyn sy’n ddyledus i Gymru ac a ddylai berchen i Gymru.”