Bydd Liz Saville Roberts yn dweud wrth gynhadledd ei phlaid yn Aberystwyth heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 7) mai dim ond Plaid Cymru sy’n brwydro dros Gymru yn San Steffan.
Bydd hi’n dweud bod yr “agendor” rhwng Mark Drakeford a Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, yn “tyfu” wrth iddi gyfeirio at anghydweld rhwng y ddau ar faterion megis cyllid teg ar gyfer trafnidiaeth, datganoli Ystad y Goron, cynrychiolaeth gyfrannol a datganoli plismona.
Bydd hi’n beirniadu gwleidyddion Llafur yng Nghymru am ochri â “phenaethiaid Llundeinig” y blaid yn hytrach na Phrif Weinidog Cymru.
Bydd hi’n dweud: “Gyda’r agendor rhwng Mark Drakeford a Keir Starmer yn tyfu, mae aelodau seneddol Llafur – ddylai fod yn cynrychioli buddiannau Cymru – yn anwybyddu neu’n ddirmygus o safbwynt eu Llafur Cymru yn y Senedd sy’n gynyddol ddilyn esiampl Plaid Cymru.
“Cymerwch ddatganoli plismona a chyfiawnder.
“Mae Plaid Cymru a Mark Drakeford ar yr un dudalen.
“Ond mae penaethiaid Llundeinig y Prif Weinidog ac aelodau seneddol Llafur yn San Steffan yn protestio’n angerddol o blaid pentyrru pwerau yn San Steffan – er gwaetha’r holl dystiolaeth o’r difrod cymdeithasol a gwastraff adnoddau mae’n ei achosi.
“Plaid Cymru, a Phlaid Cymru yn unig, sy’n brwydro dros Gymru yn San Steffan.”
Dylanwad gwleidyddion Llafur Cymru yn Llundain
Bydd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd yn tynnu sylw at y ffaith fod 90% o aelodau seneddol Llafur Cymru’n weinidogion cysgodol yn San Steffan.
Bydd hi’n dweud: “Byddan nhw oll yn ymgiprys am swydd gyfforddus yn llywodraeth Keir Starmer.
“Bydd sylw’r aelodau seneddol hynny ar ddatblygu buddiannau’r llywodraeth Lafur nesaf – ac nid ar gyflawni er lles cymunedau.
“Mae Llafur yn y Senedd, yn gywir iawn, wedi lambastio’r Torïaid ar HS2.
“Beth fyddan nhw’n ei ddweud pan fydd Keir Starmer yn casglu’r biliynau sy’n ddyledus i ni hefyd?
“Rydyn ni’n gwybod y byddan nhw’n gwneud esgusodion oherwydd, i Lafur, daw’r blaid cyn y wlad.”
HS2
Ar fater HS2, bydd hi’n atgoffa cynadleddwyr mai aelodau seneddol Plaid Cymru’n unig oedd wedi pleidleisio yn erbyn Bil HS2 yn 2013, a hynny ar sail y ffaith nad oedd Cymru’n derbyn cyllid teg.
Bydd hi’n dweud: “Tra bod aelodau seneddol eraill wedi llyncu sbin San Steffan y byddai’n cyflwyno gwelliannau i deithwyr Cymreig, fe wnaeth Plaid Cymru atal ein cefnogaeth oni bai ein bod ni’n derbyn cyllid teg.
“Chawson ni mo’n twyllo bryd hynny, a wnawn ni ddim llyncu sbin San Steffan rŵan.
“Gadewch i ni roi’r gorau i frad mawr y rheilffyrdd am byth.
“Fydd Plaid Cymru’n derbyn dim llai na iawndal llawn am bob ceiniog o wariant ar reilffyrdd yn Lloegr.”