Ers dros 40 mlynedd bellach, mae Ymddiriedolaeth Wythnos y Carchardai wedi paratoi deunyddiau gweddi ac adnoddau addoliad i alluogi’r eglwysi i weddïo’n ddeallus dros anghenion y rheini sydd yn cael eu heffeithio gan garchardai – carcharorion a’u teuluoedd, y rheini sydd yn dioddef yn sgil trais a’u cymunedau, a’r bobol sydd yn gweithio oddi fewn i’r system cyfiawnder troseddol.
Difyr fu pori trwy adnoddau safonol, ond annifyr fu sylweddoli fy mod i’n gyrru neu’n cerdded heibio i furiau cerrig a barrau heyrn carchar Caerdydd yn feunyddiol bron, heb i mi erioed feddwl o ddifri am fywyd a phrofiad carcharorion sydd yno dan glo.
Ni fûm erioed o dan glo, ac o’r herwydd rhaid cydnabod cyn lleied a wn i am fywyd carchar. Er mor amlwg y gosodiad, gosodiad pwysig ydyw: byd dieithr, estron yw byd y carchar i gymaint ohonom. Sylwch, os gwelwch yn dda, ar ddiweddglo’r frawddeg olaf honno: ‘ohonom’. Mae pawb yng Nghaerdydd yn gwybod bod yma garchar, y trwch sylweddol ‘ohonom’ yn gweld y muriau cerrig a’r bariau haearn o’r tu faes, â llif ein prysurdeb yn ein cario ni heibio i’r carchar. Ond, mae na bobol, pobol nad ydyn nhw ‘ohonom’ ni, yn byw a bod oddi mewn i’r muriau, a thu ôl i’r bariau heyrn: carcharorion.
Ie, byd dieithr, estron yw byd y carchar i gymaint ohonom, ond tybed oes rhywbeth dyfnach, tywyllach ar waith… onid ydym yn falch mai byd dieithr, estron yw byd y carchar i ni a’n tebyg? Onid oes lle gennym i ymfalchïo na fuom erioed ar gyfyl y lle? Pobol dda ydym, ac nid lle i bobol dda mo carchar; nyni – y da – fan hyn; hwynt hwy – y drwg – fan draw, o’r neilltu, o’r ffordd.
Hoffwn geisio fynd i’r afael â hyn. Onid y meddylfryd hwn yw’r rheswm pam fod carchardai yr hyn ydyn nhw heddiw?
Bu’n rhaid erioed i bobol gael bwch dihangol – scapegoat. O’r dechrau’n deg, pan fu cymuned o bobol yn synhwyro bygythiad y drygioni, gosodwyd baich y drwg ar un creadur neu berson, a chaiff yr un hwnnw ei aberthu er lles ac iechyd y gymuned. Cafodd aelod o’r gymuned ei aberthu er lles y gymuned. Hen, hen arfer sydd yn oesol gyfoes. Efallai mai’r bariau heyrn a’r muriau talsyth cedyrn yw’r ffordd yr ydym bellach yn sicrhau’r bychod dihangol sydd eu hangen arnom. Caiff daioni’r gymuned ei ddiogelu wrth wthio’r drwg i’r ymylon, a phan nad yw hynny’n ddigon, caiff y drwg ei wthio o’r ymylon i le penodol ag iddo furiau uchel a bariau heyrn.
Nid awgrymu ydw i nad oes angen carchardai, ond yn hytrach awgrymu fod torri’r fath ymraniad rhyngom ag eraill yn creu cymdeithas sgitsoffrenig. Haen drwchus o ddifaterwch ar y wyneb, ond o dan hwnnw, malais sylweddol yn mudlosgi.
Mae’r difaterwch yn codi’n naturiol o’r ffaith mai nyni yw’r bobol ‘dda’, gan nad ydym o dan glo. Caiff cydwybod ei ddofi pan ddylid ei bigo. Mae’r malais yn tyfu oherwydd bod y bobol sydd o dan glo yn ysgwyddo, nid yn unig pwysau eu troseddau, ond hefyd pwysau plwm ein hofn ninnau, a’n hangen i wybod ein bod ‘ni’ yn ddiogel rhag pobol fel ‘nhw’.
Hyd y gwelaf i, peth cymharol ddiweddar yw ‘carchar’. Cyn y ddeunawfed ganrif, nid oedd yn arferol i osod pobol dan glo. Roedd y gosb am drosedd yn llawer mwy uniongyrchol. Fflangellu, darnio neu ladd y drwgweithredwr. Roedd ‘carchar’ yn ymgais i ymateb i’r creulondeb hwnnw, ac onid oes rhywbeth allweddol ynghlwm yn y gair Penitentiary? Bwriad y carchar oedd adfer pobol mewn a thrwy edifeirwch – penitence. Sonia Garry Wills (g. 1934) yn ei erthygl The Human Sewer (NY Review of Books, 3, April 1975) am y penitentiaries gwreiddiol fel penal monasteries. Roedd gan bawb ei gell, a phob cell ei gardd. Nid hawdd oedd bywyd yno, ond bwriad y penitentiary oedd creu a chynnal edifeirwch.
P’un a ydych yn cytuno ai peidio gyda’r sylwadau uchod, mae’n rhaid i ni gytuno ar un peth: os ydym yn arddel enw Crist, amhosib yw anwybyddu’r bariau haearn a’r muriau cerrig. Myn Iesu, os nad yw ein perthynas â’n cyd-ddyn yn iawn, nad oes disgwyl i’n perthynas â Duw fod yn ddiogel. Yn wir, gweinidogaeth ymhlith ac i’r ymylol fu ei weinidogaeth yntau. Mynnodd groesi ffiniau traddodiad, arfer, rhagfarn a rhagrith: chwalodd yr hen ddihareb: ‘Câr dy gymydog ond cadw dy glawdd’. Yn union oherwydd natur ei weinidogaeth, cafodd ei garcharu, a bu farw fel bwch dihangol. Ond daeth o farw’n fyw, gan lwyr ddinistrio muriau a bariau ein caethiwed mawr.
Dyna pam na all yr un Cristion, o ddifri, anwybyddu’r muriau cerrig a’r bariau heyrn, a’r bobol – ein brodyr a’n chwiorydd – sydd yn byw a bod dan glo, y tu ôl iddyn nhw. Rydym yn byw yng nghysgod y groes, ac yng ngwawl y bedd gwag – amhosibl, felly, yw derbyn y muriau a saif o hyd, rhyngom fel plant – pawb ohonom – i Dduw.