Mae rhannau o Gymru yn y 10 uchaf o leoedd yn y Deyrnas Unedig lle mae’r nifer uchaf o geiswyr lloches yn cael eu lleoli.
Ac yn ôl gwleidyddion sy’n cynrychioli’r lleoedd hynny, mae angen i geiswyr lloches gael eu dosbarthu’n decach o amgylch gwledydd Prydain.
Mae llawer yn anhapus bod cymaint o bobol wedi’u lleoli yn rhannau o Gymru, yr Alban a Gogledd Lloegr, mewn lleoedd sydd â lefel uchel o ddiweithdra a thlodi.
Dechreuwyd symud ceiswyr lloches i’r ardaloedd hyn yn 2000 mewn polisi i geisio gwasgaru pobol o Lundain a’r De-ddwyrain.
Ond dywedodd Geraint Davies, AS dros Orllewin Abertawe, sy’n chweched ar y rhestr, na ddylai’r Llywodraeth fanteisio ar “groeso cynnes” y ddinas drwy “orlwytho arnom a pheidio â rhoi’r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi ceiswyr lloches.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Casnewydd, sy’n wythfed ar y rhestr, fod eu cymdeithas amlddiwylliannol yn golygu bod croeso i geiswyr lloches.
Er hyn, pwysleisiodd hefyd fod y cymunedau amrywiol hynny hefyd yn tueddu i fod yn ardaloedd difreintiedig.
Dywedodd fod y cyngor yn gweithio â’r Swyddfa Gartref i leihau’r effaith o gael nifer uchel o geiswyr lloches mewn ardaloedd penodol.
Ceiswyr lloches yn cael ‘effaith bositif’
Yng Nghaerdydd, dywedodd aelod cabinet y cyngor dros iechyd, tai a lles fod ceiswyr lloches yn cael effaith bositif ar y ddinas.
“Mae gan Gaerdydd hanes hir o groesawu pobol ledled y byd ac mae cyngor y ddinas wedi bod yn hapus i fod yn rhan o’r cynllun gwasgaru ceiswyr lloches ers 2001,” meddai Susan Elsmore.
“Mae’r cynllun wedi cael effaith bositif ar amrywiaeth y ddinas.”
Swyddfa Gartref am weithio â chynghorau
Dywedodd y Swyddfa Gartref y byddai’n gweithio gyda chynghorau sy’n codi pryderon dros y system o ddosbarthu ceiswyr lloches.
“Mae ceiswyr lloches yn cael eu lleoli ble mae llety priodol ar gael,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref.
“Mae cytundebau rhwng y Llywodraeth ac awdurdodau lleol sy’n rhan (o’r cynllun) yn wirfoddol ac maen nhw wedi bod ar waith ers 2000.
“Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod effaith systemau rhannu ceiswyr lloches yn cael eu hystyried a’u gweithredu.”