Plas Heli, Pwllheli
Fe fydd academi hwylio a chanolfan ddigwyddiadau Plas Heli ym Mhwllheli yn ail-strwythuro wrth i’w grantiau sefydlu ddod i ben.

Mae disgwyl i’r ganolfan gael gwared â dwy swydd a phenodi Prif Weithredwr fel rhan o’r broses ail-strwythuro.

Agorodd y ganolfan ym mis Gorffennaf 2015, ac mae’n dweud ei bod wedi cael haf ‘hynod o lwyddiannus’, gan ddod â £3.2m i’r economi leol ym Mhwllheli.

“Fel pob busnes, rydan ni’n cael ein hannog i fod yn hunangynhaliol,” meddai cadeirydd y ganolfan, Stephen Tudor wrth golwg360.

“Ac er mwyn cynnal y nod yna, rydan ni’n gorfod ail-strwythuro fel bod gynnon ni staff sy’n fwy effeithiol mewn busnes.”

Fel cwmni cymunedol, cafodd y ganolfan grant i sefydlu’r busnes ond mae hwnnw bellach wedi dod i ben.

Hyderus am ‘ddyfodol disglair’

“Mae’n rhaid i ni edrych ar strwythur a fydd yn bwrw ni ‘mlaen i’r blynyddoedd nesaf mewn ffordd bositif, rydan ni’n hyderus bod ‘na ddyfodol disglair iawn i Blas Heli,” ychwanegodd Stephen Tudor, sy’n ‘bendant’ y bydd y ganolfan yn mynd o nerth i nerth.

Mae gan y ganolfan bedwar aelod o staff cyflogedig ar hyn o bryd a 12 o gyfarwyddwyr gwirfoddol.

Ers iddi agor, mae’r ganolfan wedi cynnig sawl gweithgaredd a digwyddiad, o gynnal gwersi dysgu Cymraeg i oedolion i rasys hwylio. Mae ganddi le bwyta a bar hefyd.