Mae’r heddlu wedi cyhoeddi rhybudd wedi i e-sigarennau ac ategolion gael eu dwyn yn ystod lladrad yng Nghaerdydd.
Cawson nhw eu dwyn dros y penwythnos.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu y gallai fod yn beryglus os nad yw’n cael ei ddefnyddio yn y modd cywir.
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth, gan ofyn i’r cyhoedd fod yn wyliadwrus.