“Mae’r cyfrifoldeb arnom i gyd” i sicrhau bod y Gymraeg yn “parhau a ffynnu”, yn ôl Llywydd Etholedig TUC Cymru.

Daw sylwadau Siân Gale wrth siarad â golwg360 yn dilyn lansio Cytundeb Cyd-ddealltwriaeth rhwng TUC Cymru a Chymdeithas yr Iaith, oedd yn cael eu cynrychioli mewn sgwrs banel gan y cadeirydd Robat Idris yn trafod sut y gall undebau a chyflogwyr yng Nghymru gydweithio mewn partneriaeth ag eraill i hyrwyddo hawliau’r Gymraeg yn y gweithle.

Roedd y panel yn cynnwys y cadeirydd Siân Gale, Llywydd Etholedig TUC Cymru; Efa Gruffydd Jones, Comisiynydd y Gymraeg; Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC; Robat Idris, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith; a Dyfrig Jones, Llywydd Cangen UCU Cymru Prifysgol Bangor.

TUC yw llais Cymru yn y gweithle, tra bod Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu dros ddyfodol yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymru.

Gyda’i gilydd, maen nhw’n ceisio diogelu rhyddid a hawliau gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, fel rhan o nodau gwaith teg, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

Maen nhw’n cefnogi ac yn hyrwyddo cyfleoedd i weithwyr ddysgu Cymraeg ac uwch sgilio, ac maen nhw am weld hawliau Cymraeg ychwanegol yn cael eu cyflwyno a’u gweithredu dros amser, a’r Gymraeg yn cael ei normaleiddio ym mhob gweithle yng Nghymru.

Hawliau’r Gymraeg a hawliau eraill

Yn ôl Siân Gale, mae’r TUC am weld y Gymraeg dan ymbarél hawliau eraill.

Mae hi am weld deddfwriaeth Llywodraeth Cymru o ran y Gymraeg yn y sector breifat, ac nid dim ond yn y sector cyhoeddus.

Mae hi’n dweud bod y TUC yn cymryd hawliau’r Gymraeg o ddifrif, a bod ganddyn nhw bwyllgor iaith Gymraeg.

“O ran ni nawr fel y TUC, rydym yn gweld hawliau’r iaith Gymraeg yn rhan o deulu’r hawliau eraill,” meddai Siân Gale wrth golwg360.

“Er enghraifft, hawliau cydraddoldeb o ran Deddf Cydraddoldeb 2010, felly dyna’r hawl o dan hynny.

“Hefyd, yn Llywodraeth Cymru mae hawl newydd sosio-economaidd, ond rydyn ni’n gweld hawl yr iaith Gymraeg yn rhan o hynny.

“Rwy’n gwybod, o ran deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, mae hawl gyda phobol yn y gwaith yn enwedig yn y sector gyhoeddus.

“Rydym eisiau sicrhau bod hwnna’n estyn i’r sector breifat hefyd.

“Roeddwn yn teimlo mai ni fel undebau sydd â’r berthynas gyda’r gweithwyr i’w cefnogi nhw.

“Mae gan TUC Cymru sawl pwyllgor cydraddoldeb, ac ers dwy flynedd nawr o leiaf mae pwyllgor newydd gyda ni, sef pwyllgor yr iaith Gymraeg. Ni’n rili falch o hynny.

“Ian Thomas o undeb PCS [Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol] sy’n cadeirio’r pwyllgor yna

“Mae hwn, y memorandwm yma, y ddealltwriaeth gyda Chymdeithas yr Iaith, wedi deillio o’r pwyllgor yna.

“Mae e’n dangos pa mor bwysig yw e i gael yr iaith Gymraeg o dan faner cydraddoldeb a’n bod ni fel ni, fel undebau, yn defnyddio’r iaith fel’ny.”

Y Gymraeg yn y sector breifat

Mae Siân Gale am weld gwelliannau yn y sector breifat, ac mae hi’n teimlo ei bod yn bwysig gwneud defnydd o’r Gymraeg, yn enwedig wrth wynebu’r cyhoedd.

“Rwy’n credu y dylai’r Ddeddf Iaith gael ei gwneud am y sector breifat hefyd,” meddai.

“Dydw i ddim yn credu bod y pethau yma’n digwydd dros nos, ond rwy’n credu o fewn amser y dylen ni adeiladu ar hynny.

“Weithiau, mae cwmnïau’n ei wneud yn wirfoddol. Mae eisiau eu hannog nhw i wneud hynny.

“Weithiau, mae eisiau dipyn bach mwy o wthio arnyn nhw i wneud hynny.

“Hefyd, rwy’n credu yn rhan o’u busnes nhw mae’n anodd iawn, yn enwedig os maen nhw’n wynebu’r cyhoedd.

“Mae fel popeth cydraddoldeb, mae e’n beth busnes da i wneud, on’d ydy e?

“Mae’n rhan o’u busnes nhw i ddangos bod yr iaith yn bwysig.

“Efallai bod pobol yn meddwl yn well amdanyn nhw fel cwmni.

“Rwy’n gwybod yn lleol, le rwy’n byw yng Nghaerdydd, yn Lidl mae popeth yn ddwyieithog ac weithiau mae’r iaith Gymraeg yn fwy.

“Rwy’n teimlo llawer mwy cysurus yn mynd yna, ac rwy’ fwy tebygol o fynd i siopa yna oherwydd rwy’n gweld eu bod nhw’n cydnabod a gwerthfawrogi’r iaith.”

Diffyg Cymraeg yn y gweithle

Mae Siân Gale yn bersonol wedi clywed straeon am bobol sydd ddim yn cael defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Hefyd, teimla nad yw pobol eisiau siarad Cymraeg mewn cwmni di-Gymraeg weithiau, neu fod gan bobol ddiffyg hyder.

“Ni wedi clywed straeon dros y blynyddoedd o bobol ddim yn cael defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, on’d ydyn ni?” meddai, gan gyfeirio at achos yng ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon, oedd yn gwrthod rhoi’r hawl i weithwyr siarad Cymraeg.

“Roedd pobol yn dweud wrthyn nhw i beidio â siarad Cymraeg,” meddai.

“Ond hefyd, beth sy’n digwydd weithiau yw, os taw dim ond un neu ddau sy’n siarad Cymraeg, weithiau dyw gweithwyr ddim yn teimlo’n hyderus i siarad Cymraeg oherwydd bo nhw’n teimlo’u bod nhw’n eithrio eraill.

“Rwy’n credu’n bod ni angen ffeindio ffyrdd o gwmpas hynny.

“Mae yna lawer o bobol hefyd yn dysgu’r Gymraeg ond ddim â’r hyder i’w siarad.”

Hwyluso dysgu Cymraeg

Yn ôl Siân Gale, sy’n gweithio ym maes sgiliau yn y diwydiannau creadigol, mae gan bobol awydd i ddysgu’r iaith ond mae’n credu bod dyletswydd ar y sawl sy’n medru’r iaith a chyflogwyr i hwyluso.

Mae’n credu bod angen i nifer o fudiadau a’r gymuned fod yn gefnogol i ddysgwyr er mwyn cyrraedd eu nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

“Beth rwy’n gweld yw bod yna lawer o bobol â’r awydd i ddysgu’r Gymraeg, felly mae gwaith gyda ni [i’w wneud].

“Mae llawer o’n pobol ni’n llawryddion, felly does dim cyflogwr gyda nhw i fynd i’w helpu nhw gyda’r iaith, felly ni’n gwneud hynny fel prosiectau dysgu sydd gyda ni, ond rydyn ni eisiau cefnogi nhw gyda hyder yn yr iaith i sicrhau eu bod nhw’n gallu siarad ag eraill yn y Gymraeg.

“Rwy’n credu bod dyletswydd arnom i gyd o ran siaradwyr Cymraeg, on’d oes, pan rydym yn y gweithle neu yn ein cymunedau i sicrhau ein bod ni’n cefnogi’r sawl sy’n ceisio dysgu a rhai sydd ddim efo digon o hyder i weld be’ allwn ni wneud i gryfhau’r iaith yn ein cymunedau ni.

“Hefyd, yn ddiweddar, rydym wedi bod yn ceisio cyflogi siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu.

“Mae’n anodd iawn dod o hyd i ddigon o siaradwyr Cymraeg, felly mae angen i ni gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg, on’d oes?

“Mae hwnna’n mynd i fod yn anodd oni bai bo ni i gyd fel undebau, cyflogwyr, Cymdeithas yr Iaith, Comisiynwyr, Llywodraeth Cymru, llywodraethau lleol a phawb yn ein cymunedau.

“Os nad ydyn ni i gyd yn cydweithio, dydy e ddim yn mynd i ddigwydd.

“Ddylen ni ddim aros i rywun arall wneud y gwaith drosom ni.

“Mae’r cyfrifoldeb arnom i gyd i’w wneud o os ydan wir am i’r Gymraeg parhau a ffynnu.”

Partneriaeth gymdeithasol

Yn ôl Siân Gale, mae Llywodraeth Cymru wedi arwyddo partneriaeth gymdeithasol rhwng y TUC a’r sector gyhoeddus, sydd yn golygu bod gan y TUC fynediad at Lywodraeth Cymru.

“Beth ddywedodd Robat [Idris] oedd bod mwy o fynediad gyda’r TUC i Lywodraeth Cymru, ac un o’r rhesymau dros hynny yw, eleni, gwnaeth Llywodraeth Cymru arwyddo partneriaeth gymdeithasol rhwng y TUC, sef undebau cyflogwyr a’r sector gyhoeddus, bo ni wastad yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau taw dim, dim ond y cyflogwr sydd wrth y bwrdd,” meddai.

“Yn aml iawn, weithiau, mae’r undebau yn cael eu gadael ma’s.

“Nawr, ni eisiau sicrhau pan mae sgyrsiau’n digwydd bo ni yna i siarad dros y gweithwyr fel undebau yn ogystal â’r cyflogwyr.”


Dyma anerchiad Siân Gale yn llawn:

“Fy enw i yw Siân Gale. Dwi’n Llywydd Etholedig a Chadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb TUC Cymru ac yn Rheolydd Sgiliau a Datblygiad i undeb Bectu ac yn aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Dim dyma’r tro cyntaf i Bectu a Chymdeithas yr Iaith gydweithio.

“Dros ddegawd yn ôl, ymunom gyda’n gilydd ynghyd â nifer o sefydliadau Cymreig ac undebau creadigol eraill i gynnal rali yng Nghaerdydd i brotestio yn erbyn toriadau o 40% i gyllid S4C gan y Torïaid yn San Steffan.

“Rwy’n hynod o falch i gyd-ddathlu lansiad partneriaeth TUC Cymru gyda Chymdeithas yr Iaith heddiw yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

“Mae cefnogi hawliau defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle yn rhan allweddol o gredoau TUC Cymru a Chymdeithas yr Iaith mewn gwaith teg, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, ac rydym am ddiogelu cynhwysiant cymdeithasol yn nhermau’r iaith Gymraeg.

“Mae lansiad ein Cytundeb Cyd-ddealltwriaeth gyda Chymdeithas yr Iaith yn dangos ac yn mynegi’r egwyddorion a’r nodau a rannwn yn nhermau cefnogi a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.

“Un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw am Gymru a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Fodd bynnag, mae’r Gymraeg wedi bod yn ymylol ym myd gwaith a busnes ers blynyddoedd, ac mae TUC Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn credu ei bod yn bryd unioni’r cam.

“Mae hyn i gyd yn rhan o’r un frwydr dros hawliau gweithwyr a’u cymunedau.

“Felly, mae partneriaeth TUC Cymru gyda Chymdeithas yr Iaith yn seiliedig ar gefnogi hawliau gweithwyr i siarad a defnyddio, i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg yn ddirwystr yn y gweithle.

“A gyda’n gilydd, rydym yn cefnogi darpariaeth gwasanaethau Cymraeg – gan adlewyrchu eu defnydd ymhob agwedd o fywyd bob dydd – yn cynnwys bywyd hamdden, yn y cartref a’r gymuned.

“Diolch yn fawr.”

Sut i gael help wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle

Gwnaeth Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ddarpariaeth ar gyfer statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru, ac o ganlyniad iddo mae gan bawb ryddid i ddefnyddio’r Gymraeg, hawl i siarad a defnyddio’r Gymraeg gydag eraill yng Nghymru yn ddirwystr heb ymyrraeth na dioddef anfantais, gan gynnwys ym mhob gweithle a phob sector.

Mewn sefydliadau sydd o dan ddyletswyddau Safonau’r Gymraeg, mae gan bawb hawliau penodol yn y gweithle.

  • Gofynnwch i’ch cyflogwr pa wasanaethau maen nhw’n eu cynnig yn Gymraeg
  • Siaradwch gyda’ch cynrychiolydd undeb os yw hi’n anodd i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith neu i ofyn am gyfleoedd ac amser i ffwrdd o’r gwaith i ddysgu Cymraeg ac uwchsgilio
  • Ymgyrchwch i gynyddu proffil yr iaith Gymraeg yn eich gweithle drwy’ch undeb
  • Cwynwch wrth Gomisiynydd y Gymraeg – yn ddienw ac am ddim – mae dyletswydd ganddo i ystyried eich cwyn ac i geisio sicrhau tegwch i chi
  • Efallai y gallwch ddysgu Cymraeg drwy ddefnyddio Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) p’un a ydych yn aelod o undeb ai peidio.
  • Awgrymwch fod eich undeb yn ymuno â Fforwm y Gymraeg TUC Cymru ac yn cydweithio gyda ni i ddatblygu ei ddarpariaeth Cymraeg ei hun.