Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi aelodau’r panel fydd yn monitro a chraffu ar gynlluniau i wella’r ddarpariaeth Gymraeg mewn gwasanaethau gofal.

Cadeirydd y bwrdd fydd Elin Wyn, sydd wedi bod yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac yn aelod annibynnol o Gyngor Prifysgol Bangor.

Bwriad y bwrdd yw sicrhau bod cynnydd yn digwydd yn sgil y cynllun pum mlynedd, Mwy na geiriau, gafodd ei lansio y llynedd.

“Nod ein cynllun yw creu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol lle mae pobol yn cael cynnig eu gofal yn Gymraeg yn rhagweithiol,” meddai Eluned Morgan.

“Mae ymchwil wedi dangos bod gallu cael gwasanaethau yn y Gymraeg yn gallu gwella profiad pobl yn sylweddol ac, mewn llawer o achosion, bod eu canlyniadau o ran iechyd a lles yn well hefyd.

“Ond dangosodd hefyd fod pobol yn aml yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar wasanaethau yn y Gymraeg ac yn amharod i ofyn os nad yw gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig.”

Mae’r cynllun yn cynnwys sawl cam gweithredu yn dilyn y themâu o ddiwylliant ac arweinyddiaeth, cynllunio a pholisïau’r Gymraeg a datblygu sgiliau Cymraeg yn y gweithlu.

‘Cynnydd sylweddol’

Hefyd yn aelodau o’r bwrdd mae Dr Alwen Morgan, Dona Lewis, Dr Huw Dylan Owen, Dr Olwen Williams, Dr Rajan Madhok a Teresa Owen.

Gwnaed y cyhoeddiad ar stondin Llywodraeth Cymru ar Faes yr Eisteddfod ym Moduan heddiw (dydd Gwener, Awst 11).

“Mae gan y bwrdd rwy’n ei gyhoeddi heddiw gyfoeth o brofiad a gwybodaeth o ran y defnydd o’r Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol,” meddai Eluned Morgan.

“Byddant yn gwneud argymhellion i mi ynghylch meysydd lle gellid gwneud cynnydd pellach ac os daw pryderon i’r amlwg nad yw uchelgais yn cael ei gwireddu.”

Dywed fod “cynnydd sylweddol” wedi ei wneud dros y flwyddyn gyntaf o ran cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth Gymraeg gorfodol i staff, a datblygu canllawiau cynllunio’r gweithlu ar gyfer sgiliau Cymraeg.

“Mae safonau’r Gymraeg wedi eu gosod ar reoleiddwyr iechyd ac mae gwaith wedi dechrau i leoli tiwtoriaid mewn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i greu siaradwyr Cymraeg hyderus,” meddai.

“Ond mae llawer mwy i’w wneud ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r bwrdd a chael yr adroddiad cynnydd cyntaf ganddynt yn ddiweddarach eleni.”