Bydd gwaith mobileiddio yn cychwyn ar Bont Menai ddydd Llun (Awst 14).
Mae’r gwaith yn rhan o baratoadau cyn i’r gwaith atgyweirio gychwyn yn llawn fis nesaf (Medi 4).
Bwriad y gwaith, fydd yn mynd yn ei flaen am ryw ddeunaw mis, yw gwneud gwaith atgyweirio er mwyn sicrhau bod y bont yn ddiogel i’w defnyddio.
Pwrpas y gwaith mobileiddio yw paratoi’r safle gwaith a hwyluso’r broses o gael mynediad at y safle, a derbyn nwyddau ac offer.
Fel rhan o’r gwaith, bydd cabanau safle dros dro yn cael eu codi ar yr ochr dde-orllewinol yr angorfa.
Yn ogystal, bydd trefniadau ar gyfer storio defnyddiau yn cael eu gwneud yng nghilfan fechan Porthaethwy a bydd darn bach o ffens wrth y pwynt mynediad i’r bont yn cael ei dynnu i lawr.
Fydd y gwaith mobileiddio ddim yn amharu ar lif y traffig.
Fodd bynnag, bydd system rheoli traffig newydd yn ei lle er mwyn lleihau’r aflonyddwch pan fydd y gwaith adfer yn cychwyn yn llawn fis Medi.
Bryd hynny, bydd un lôn yn cau yn ystod yr oriau gwaith rhwng 7yb a 7yh, gyda goleuadau traffig yn cael eu rheoli gan law er mwyn sicrhau bod pethau’n rhedeg yn esmwyth.
Angen trydedd bont?
Mae llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r newyddion bod y gwaith ar fin dechrau.
“Mae’r pontydd yn hanfodol i bobol leol, maent yn hollbwysig i economi Ynys Môn ac yn anffodus mae problemau’r pontydd presennol wedi bod yn mynd rhagddynt ers llawer rhy hir,” meddai Natasha Asghar.
Mae hi wedi adnewyddu’r alwad i agor trydedd bont yn yr ardal er mwyn hwyluso teithio ar gyfer pobol leol.
“Gyda’r cyhoedd yn galw am drydedd bont y Fenai sydd ei mawr angen yn disgyn ar glustiau byddar, o leiaf gall gwaith atgyweirio fynd yn ei flaen ar ôl misoedd o ansicrwydd i bobol Ynys Môn,” meddai.
“Mae angen i Lafur ailasesu eu gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd a darparu’r seilwaith hanfodol sydd ei angen yn ddirfawr ar economi Cymru.”
Mae hyn hefyd yn alwad sydd wedi ei gwneud gan Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru.
“Rydym yn gwybod yn rhy dda beth yw sgil-effeithiau’r tarfu ar ein pontydd,” meddai.
“Dyna pam rwy’n glir bod angen croesfan fwy cadarn, a’r ateb yw deuoli Britannia neu, mewn geiriau eraill, i godi trydedd groesfan.”
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud bod hyn yn rhywbeth maent yn bwriadu yn eu dogfen prosiectau lleol ac maent yn dweud ei fod “yn debygol iawn” y caiff pob prosiect yn y ddogfen ei gyflawni.
Yn ôl y ddogfen, y bwriad fyddai cwblhau’r gwaith erbyn 2029/30.