(llun o wefan y Gwasanaeth Ambiwlans)
Mae llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Elin Jones, yn galw ar y Gweinidog Iechyd i weithredu ar frys yn sgil “diffygion sylweddol”  sy’n cael eu rhagweld mewn gwasanaethau ambiwlans a pharafeddygon y penwythnos yma.

Roedd Elin Jones yn ymateb i adroddiadau answyddogol mai gwasanaeth salach nag arfer fydd ar gael o ddydd Iau tan dydd Sul yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Chastell Nedd Port Talbot.

Mae hi wedi gofyn i’r Gweinidog Mark Drakeford am eglurhad ac yn pwyso arno i sicrhau bod gofal argyfwng digonol ar gael.

“Mae’r rhain yn adroddiadau sy’n peri pryder mawr,” meddai. “Os ydyn nhw’n wir, yna mae’n rhaid iddo weithredu ar unwaith.

“Mae’n rhaid i bobl Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Chastell Nedd Port Talbot gael y sicrwydd y bydd eu galwadau 999 yn cael eu hateb, ac mae angen i’r Gweinidog sicrhau bod digon o barafeddygon ar gael.

“Mae hon yn sefyllfa wirioneddol ddifrifol ac mae’n gofyn am ymateb yr un mor ddifrifol, a hynny ar unwaith, gan y Gweinidog.”