Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur (llun: PA)
Mae cyfarwyddwr etholiadau Llafur yn Llundain yn rhagweld y bydd y blaid yn colli ei mwyafrif yn y Cynulliad yn yr etholiad ym mis Mai.

Mewn cyflwyniad i gabinet yr wrthblaid, dywedodd Patrick Heneghan fod y tueddiadau presennol yn awgrymu mai llywodraeth leiafrifol fydd gan Lafur yng Nghymru ac y bydd hi’n colli pob un o’r seddau etholaeth yn mae’n eu dal yn senedd yr Alban.

Dywedodd fod disgwyl i Lafur golli tua 200 o seddau cyngor yn Lloegr hefyd yr un diwrnod.

Gydag adroddiadau fod ei gynulleidfa’n fud wrth wrando ar y rhagolygon, yr unig newydd da a oedd ganddo oedd bod Sadiq Khan, yr ymgeiswydd am Faer Llundain, 10 pwynt ar y blaen i Zac Goldsmith, yr ymgeisydd Torïaidd, ar hyn o bryd.

Colli pleidleisiau lleiafrifoedd

Yn y cyfamser, mae gwleidydd Llafur blaenllaw wedi rhybuddio bod y blaid yn prysur golli pleidleisiau lleiafrifoedd ethnig.

Dywed Chuka Umanna, un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth Llafur cyn iddo dynnu’n ôl, fod tua miliwn o bleidleiswyr du ac Asiaidd wedi cefnogi David Cameron ym mis Mai y llynedd. Yr amcangyfrif yw bod y gefnogaeth i’r Torïaid ymysg y lleiafrifoedd hyn wedi mwy na dyblu ers yr etholiad cynt.

“Fydd gan Lafur ddim gobaith o gadw’n sedddau presennol heb sôn am ennill digon o seddau newydd i ffurfio llywodraeth yn 2020 os bydd y tueddiad yma’n parhau,” rhybuddia.