Liz Saville Roberts
Mae aelod o bwyllgor Seneddol sy’n cynnal arolwg o ddarlledu yng Nghymru, wedi bwrw amheuaeth ar gywirdeb y nifer sy’n gwylio S4C.
Yn ôl Liz Saville Roberts, nid yw’r Broadcasters’ Audience Research Board (BARB) yn monitro patrymau gwylio digon o gartrefi Cymry Cymraeg.
Yn ôl Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd mae BARB yn monitro 300 o setiau teledu yng Nghymru, a tua 170 o’r rheiny mewn cartrefi ble mae’r Gymraeg yn cael ei siarad.
“Yn fy marn i dydi’r nifer o setiau teledu rydan ni’n selio ein barn ar S4C ddim yn ystadegol gadarn,” meddai Liz Saville Roberts, “yn enwedig gan nad yw’n mesur [nifer gwylwyr rhaglenni] plant dan bedair oed nac yn mesur gwylwyr drwy declynnau digidol megis i-player.”
Roedd Liz Saville Roberts yn siarad gyda chylchgrawn Golwg ddechrau’r wythnos yng Nghaernarfon, yn dilyn cyfarfod o Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin sy’n cynnal yr ymchwiliad i ddarlledu yng Nghymru.
Cadeirydd y pwyllgor yw’r Tori David Davies.
Yn ystod y cyfarfod roedd Aelod Seneddol Mynwy wedi gofyn “does dim digon yn gwylio [S4C] – sut allwn ni annog pobol i wylio?”
Faint sy’n gwylio?
Yn ôl ffigyrau diweddaraf S4C, ar gyfer wythnos olaf Tachwedd 2015, y rhaglen fwya’ poblogaidd oedd Pobol y Cwm.
Roedd 60,000 wedi gwylio’r bennod a ddangoswyd ar y nos Wener a’r ailddarllediad ddydd Llun.
Bu i 51,000 wylio’r dangosiad gwreiddiol a’r ailddarllediad o 35 Diwrnod, yr ail raglen fwyaf poblogaidd.
Ar gyfartaledd roedd 35,000 wedi gwylio 20 rhaglen fwya’ poblogaidd y Sianel.
Yn ôl Adroddiad Blynyddol S4C, roedd 360,000 o wylwyr yn gwylio o leiaf tri munud o’r Sianel bob wythnos yn 2014/15.