Cast theatr Arad Goch yn perfformio
Mae cyfarwyddwr un o sioeau blaenorol Ieuenctid yr Urdd wedi dweud ei fod wedi “tristau” yn y mudiad am i’r theatr droi at addasiad yn ei gynhyrchiad eleni.

Dywedodd Jeremy Turner o gwmni Arad Goch ei fod yn credu bod bwlch yn y farchnad am sioeau cerdd Cymraeg gwreiddiol a bod cynhyrchu Les Mis wedi bod yn ‘gam yn ôl’.

“Dw i bendant yn meddwl fod angen mwy o stwff gwreiddiol yn y Gymraeg, a dw i’n credu bod digon o syniadau i gael yng Nghymru i greu ein gwaith ein hunain,” meddai.

“Mae’r sin roc a’r sin werin yn bendant ar dwf yng Nghymru. Byddai rhai’n dweud ei fod yn llawer mwy ffyniannus na chyflwr y theatr.”

Am hynny, fe ddywedodd ei fod yn “tristau pan mae cwmnïau eraill, gan gynnwys yr Urdd bellach, yn troi at addasiadau. Roeddwn i’n teimlo fod cynhyrchu Les Mis yn gam yn ôl.”

Cysgu’n Brysur yn ôl ar ei newydd wedd

Jeremy Turner oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo cynhyrchiad Theatr Ieuenctid yr Urdd, Cysgu’n Brysur yn 2014, pan dorrwyd tir newydd wrth wahodd y gynulleidfa i glwb nos yn Aberystwyth.

Mae’r sioe yn ôl eleni, sy’n gynhyrchiad ar y cyd y tro hwn rhwng Arad Goch, Canolfan Mileniwm Cymru a Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Mae’r sgript, y themâu a’r pynciau sy’n wynebu’r cymeriadau yn gwbl newydd. Ond mae’r sioe unwaith eto yn seiliedig ar ganeuon y grŵp pop, Bromas.

“Fe gawson ni gymaint o bleser a boddhad nes i ni benderfynu ymestyn y gwaith ymhellach a chreu perfformiad proffesiynol ohoni.

“Dw i wastad wedi ymddiddori mewn cerddoriaeth yn fy ngwaith,” ychwanega Jeremy Turner.

Mae 11 o actorion yn rhan o’r cynhyrchiad eleni a straeon disgyblion chweched dosbarth Cymru yn cael eu plethu gan yr awdur Bethan Marlow.

Gellir darllen rhagor yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.