Bydd prosiect newydd yn edrych ar y profiad o fod yn Gymry Cymraeg mewn tirlun sy’n newid, ac arwyddocâd dwy chwarel i un pentref yng Ngheredigion.
Eddie Ladd, Meinir Mathias a Lleucu Meinir sydd yn gyfrifol am Cware, fydd yn edrych ar effaith dwy chwarel ar Dalgarreg a’r cyffiniau.
Mae Cware wedi derbyn grant gan gronfa Llais y Lle, Cyngor y Celfyddydau ac mae’r gwaith wedi dechrau ers tua thri mis.
Pwrpas y grant ydy edrych ar ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg a datblygu teimlad o berthynas pobol gyda’r iaith mewn gwahanol gymunedau.
Cware yw’r gair tafodieithol am chwarel yn yr ardal, ac ar ôl cyfnodau o archwilio a thrafod â’r gymuned bydd yr artistiaid yn mynd ati i greu rhywbeth fydd yn annog trafodaeth ac yn adlewyrchu’r trafod.
Newid
Er bod canran weddol uchel o siaradwyr Cymraeg yn Nhalgarreg, a 47.7% o boblogaeth y ward yn siaradwyr Cymraeg yn ôl y sensws diwethaf, mae dipyn o newid ar droed yn yr ardal, meddai Lleucu.
“Mae chwaer Meinir [Mathias] wedi bod yn trio prynu bwthyn bach yn Nhalgarreg, mae’r cartrefi yn cael ei gwerthu cyn bod pobol yn dod i’w gweld nhw am brisiau enfawr. Ti’n gweld y newid yma,” eglura Lleucu Meinir wrth golwg360.
Mater arall yw newid enwau Cymraeg, gan gynnwys hen gartref yr ymgyrchydd iaith Cynog Dafis gafodd ei newid o Crugyreryr Uchaf i Upper Eagle Farm yn ddiweddar.
“Mae defnydd geiriau Cymraeg, mae hynna i gyd yn newid o dy gwmpas di,” meddai Lleucu Meinir.
“Hefyd yn Nhalgarreg, mae’r tirlun ei hunan yn newid.”
Mae chwarel Crug-yr-Eryr yn dod i ben nawr, a’r gred yw y bydd yna ddigon o garreg yn y chwarel arall, Cware Gallt Coed Faerdre, am ddeng mlynedd arall.
Fe wnaeth clywed am hynny wneud i’r dair feddwl am hanes y pentref, a tharddiad enw Talgarreg.
“Ers symud i Dalgarreg roedd Meinir yn meddwl lle mae’r garreg dal yma. Tal…Garreg. Pa un yw’r garreg dal?” meddai Lleucu.
“Mae’n debyg ar yr hen ffordd mewn i Dalgarreg roedd yna dalcen fawr chwarel arall sydd bellach wedi cael ei nadu. Roedd pentref bach yna.
“Mae’r pentref yna wedi mynd yn angof nawr, does neb yn byw yn ble oedd y pentref yma. Mae hynna’n rhywbeth i ni ddechrau edrych mewn i.”
Derbyn a dathlu?
Elfen arall o’r gwaith ydy edrych ar sut mae rhywogaethau’n diflannu fel petai’n adlewyrchu’r newid i’r iaith a’r tirlun.
“Mae Meinir hefyd wedi bod yn sgwrsio gyda bachgen sy’n gwneud gwaith cadwraeth o gwmpas y pili pala yma sydd bron diflannu o’r ardal,” eglura Lleucu Meinir.
“Newid yn y tirlun, newid yn yr iaith, pentref yn diflannu… Y rhywogaeth yn diflannu fel pethau sy’n adlewyrchu’r Gymraeg a diwylliant y Cymry.
“Wrth ein bod ni’n trafod beth sy’n bwysig, [rydyn ni’n] meddwl beth o’r newid ti’n derbyn a ti’n dathlu.”
Trafod â’r gymuned
Prosiect archwilio yw Cware, a dros y tri mis diwethaf mae’r dair wedi bod yn trafod gyda’i gilydd a’r gymuned.
Maen nhw hefyd wedi bod yn cydweithio gyda thafarn Glanyrafon, Iwan Evans o Cwarel Allt Cae’r Faerdre, ac Ysgol Talgarreg.
“Y prif gwestiwn yw beth yw’r profiad o fod yn Gymry Cymraeg mewn tirlun sydd â diwylliant sy’n gyson newid. Mae fe’n newid trwy oes.
“Rydyn ni’n yn eistedd yn y newid yna am gyfnod bach ac yn amlwg ar hyn o bryd mae’r newid yn digwydd yn sydyn iawn.
“Yn y newid i ni ynddo mae gymaint o bwysau ar y farchnad, pwysau ieithyddol dros platfformau gwahanol.
“Mae’r holl bwysau yma efallai yn drymach na beth oedd o ar Gymry Cymraeg nawr.”
‘Dysgu gan ein gilydd’
Mae’r holl brosiectau sydd wedi derbyn arian gan Llais y Lle yn cyfarfod bob tua thri mis i drafod eu gwaith.
“Y syniad ydy ein bod ni’n dysgu oddi wrth ein gilydd fel bod Cyngor y Celfyddydau yn dysgu oddi wrth holl ddulliau creadigol y gwahanol grwpiau yma mewn cymunedau gwahanol iawn,” esbonia Lleucu Meinir.
“Beth sydd angen er mwyn gweithio yn Gymraeg a datblygu’r defnydd a pherthyn o ran y Gymraeg yn y byd celfyddydol yng Nghymru.
“Mae tri mis wedi bod ohonom ni’n archwilio rhwng ein gilydd.
“Mae tri mis yn dod nawr le ni’n mynd i fod yn siarad gyda chymaint o’r gymuned â phosib, ac ystyried ffordd o ymateb yn greadigol gyda’r gymuned i gyd wedyn.”