Cafodd beirniad bwyd adnabyddus ei blesio gan hufen iâ’r cwmni enwog Joe’s yn Abertawe’n ddiweddar.

Mae Jay Rayner yn canu clodydd y cynnyrch lleol mewn erthygl i’r Observer, lle mae’n dweud ei fod yn “ffres”, “hufennog” a “hyfryd”.

Dywed fod y cwmni’n enwog am “gynnig unrhyw flas hoffech chi, cyhyd ag y bo hwnnw’n fanila”.

“Unwaith maen nhw’n ei drio, maen nhw’n dwlu arno,” meddai am gwsmeriaid y parlwr.

Cafodd y cwmni ei sefydlu gan yr Eidalwr Joe Cascarini yn 1922, ac mae ganddyn nhw bum parlwr yng Nghymru erbyn hyn.

Daeth y teulu o fynyddoedd Abruzzi yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chafodd Joe siom nad oedd caffis ar agor yn gynnar yn y dydd i ddiwallu anghenion gweithwyr diwydiannol yng Nghwm Tawe.

Gan ddefnyddio ryseitiau dirgel Eidalaidd, fe ddefnyddiodd e gynnyrch Cymreig i greu’r hufen iâ yn Abertawe.

Ers agor eu siopau cyntaf yn Abertawe, bellach mae ganddyn nhw ragor yng Nghaerdydd a Llanelli.

Holi barn y sêr

Ar Ddiwrnod Hufen Iâ Cenedlaethol dros y penwythnos, aeth Lleucu Jenkins, Cynhyrchydd Creadigol golwg360, draw i Tafwyl yng Nghaerdydd i holi rhai o sêr Cymru p’un yw eu hoff flas.

@golwg360

Er gwaetha glaw Tafwyl, mae hi wastad yn dywydd hufen iâ🍦 Dyma hoff flasau hufen iâ pobl ar faes Tafwyl – ar ddiwrnod Cenedlaethol Hufen Iâ ! #tiktokcymraeg #cymru #tafwyl

♬ original sound – golwg360