Mae Heddlu Llundain wedi cytuno i dalu iawndal gwerth £2m i deulu’r Cymro Daniel Morgan, ar ôl i lygredd darfu ar eu hymchwiliad i’w lofruddiaeth 36 o flynyddoedd yn ôl.

Does neb wedi’i gael yn euog o ladd y ditectif preifat a thad i ddau o blant, y cafwyd hyd i’w gorff ym maes parcio tafarn yn Sydenham yn nwyrain Llundain â bwyell yn ei ben fis Mawrth 1987.

Mae disgwyl i Syr Mark Rowley, Comisiynydd Heddlu Llundain, ymddiheuro’n gyhoeddus yr wythnos hon am “lygredd, anallu a bod yn amddiffynnol”, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu bod yr ymchwiliad wedi costio dros £40m hyd yn hyn, ac mae’r iawndal am ddod ag achos sifil gan y teulu yn erbyn yr heddlu i ben, a hwythau wedi dadlau bod yr heddlu’n euog o dorri’r Ddeddf Hawliau Dynol a throseddau eraill fel rhan o’r ymchwiliad.

Byddai’r iawndal yn talu costau cyfreithiol y teulu.

Dogfennau mewn cabinet

Yn gynharach eleni, cafwyd hyd i ddogfennau sy’n berthnasol i’r achos eu canfod mewn cabinet yn swyddfeydd Heddlu Llundain, a’r cabinet hwnnw dan glo a heb ei ddefnyddio ers naw mlynedd.

Ar y pryd, dywedodd Barbara Gray, y Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol, fod y sefyllfa’n “annerbyniol” a bod yr heddlu’n “difaru” hynny.

Ymhlith y dogfennau roedd 95 tudalen ddylai fod wedi cael eu trosglwyddo i’r ymchwiliad annibynnol.

Er i’r dogfennau ddod i’r amlwg ym mis Ionawr, doedd teulu Daniel Morgan ddim wedi cael gwybod tan fis Ebrill.

Er bod Syr Mark Rowley eisoes wedi ymddiheuro wrth y teulu, maen nhw’n galw am gyhoeddiad pellach fod Heddlu Llundain yn euog o lygredd sefydliadol, barn gafodd ei chefnogi gan ymchwiliad annibynnol yn 2021, wrth iddyn nhw gelu neu wadu ffeithiau mewn perthynas â’r achos.

Fe wnaeth y Fonesig Cressida Dick, cyn-Gomisiynydd Heddlu Llundain, ymddiheuro wrth y teulu rai blynyddoedd yn ôl am fethu â dwyn neb o flaen eu gwell ac am y “boen” gafodd ei hachosi i’r teulu.

Ond dydyn nhw ddim wedi derbyn hyd yn hyn fod llygredd sefydliadol yn broblem o fewn y llu.