Mae’r diffyg Cymraeg ar arwyddion a chyhoeddiadau trenau o Aberystwyth yn “siomedig”, yn ôl teithiwr fu’n cwyno am y sefyllfa.
Dydy’r cyhoeddiadau sain na’r arwyddion byw ar drên Trafnidiaeth Cymru o Aberystwyth i Birmingham ddim yn Gymraeg, na’r arwyddion byw ar blatfform gorsaf Bow Street chwaith.
Yn ôl Richard Crowe, sydd wedi cwyno am y sefyllfa sawl tro dros y blynyddoedd, mae’n siom nad oes gwelliant wedi bod ers i Drafnidiaeth Cymru, dan Lywodraeth Cymru, gymryd drosodd yn 2018.
Ar ôl codi’r mater gyda Thrafnidiaeth Cymru heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 17), dywedodd y cwmni wrtho eu bod nhw wedi etifeddu’r hen dechnoleg ac y byddan nhw’n gwneud newidiadau pan fydd trenau newydd ar y cledrau.
“Dw i wedi sylwi ers blynyddoedd [ar y diffyg Cymraeg], dw i’n gallu mynd yn ôl i’r adeg pan oedd Trenau Arriva Cymru yn rhedeg y fasnachfraint yng Nghymru,” meddai Richard Crowe, sy’n byw ger Penrhyn-coch yn Aberystwyth, wrth golwg360.
“Mae’r arwyddion parhaol wedi bod yn Gymraeg ers amser, ond y bwrdd electroneg sy’n dweud pa drên sy’n dod, a’r byrddau sy’n dweud beth yw’r orsaf nesaf pan rydych chi ar y trên a’r cyhoeddiadau sain ar y trên ei hun, dydyn nhw ddim.
“Mae’r cyhoeddiadau sain ar y platfform bellach yn ddwyieithog, roedd hynny wedi digwydd adeg oedd Arriva Cymru’n rhedeg y trenau.
“Ers i Drafnidiaeth Cymru gymryd drosodd dw i ddim wedi gweld llawer o welliant, a dw i ychydig bach yn siomedig achos Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y trenau hynny.
“Roeddwn i’n deall dadl Arriva yn yr hen ddyddiau eu bod nhw’n gwmni preifat a’u bod nhw ddim yn gorfod gwneud unrhyw beth yn Gymraeg, felly roedd beth oedden nhw’n ei wneud yn ychwanegol, os liciwch chi.
“Gefais i ateb heddiw pan oeddwn i’n trydar am y peth, roedden nhw’n dweud eu bod nhw wedi etifeddu’r hen dechnoleg ac mewn gwirionedd fydd yna ddim gwelliant nes bod trenau newydd sbon ar y traciau ond dw i ddim yn gwybod pryd fydd hynny.”
‘Rhoi’r Gymraeg mewn cyd-destun arall’
Agorodd gorsaf Bow Street yn 2021 yn y gobaith o wella problemau parcio a thraffig yn Aberystwyth, ac mae Richard Crowe yn falch iawn fod gorsaf mor agos bellach.
Fodd bynnag, mae’n credu bod Llywodraeth Cymru’n colli cyfle wrth beidio ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg.
“Pan rydych chi’n mynd dramor mae’n hollol arferol i gael y cyhoeddiadau yma ar y platfform, ar y trenau mewn sawl iaith. Weithiau maen nhw’n newid iaith wrth groesi ffiniau ac ati,” meddai.
“Mae’r dechnoleg mas yna, dw i’n credu mai be maen nhw’n ddweud ydy ei bod hi’n costio gormod o arian i gael technoleg newydd i wneud y cyhoeddiadau a’u bod nhw’n mynd i aros nes bod trenau newydd cwbl newydd yn dod ar y traciau.
“Mae’n gwneud i chi feddwl pam nad ydy’r Llywodraeth, sy’n rhedeg y trenau erbyn hyn, yn fwy cadarn.
“Os mai polisi’r llywodraeth yw nid yn unig tyfu nifer siaradwyr ond creu mwy o gyfleoedd i bobol ddefnyddio’r Gymraeg, yna mae pethau fel hyn, er eu bod nhw’n bethau bach, yn golygu bod lot o bobol yn gweld a chlywed y Gymraeg bob dydd wedyn.
“Mae’n rhoi’r Gymraeg mewn cyd-destun arall.”
‘Cymryd mwy o amser nag y byddem yn ddymuno’
Dywedodd Lowri Joyce, Rheolwr Strategaeth y Gymraeg Trafnidiaeth Cymru: “Mae TrC yn buddsoddi mwy na £800m mewn trenau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith Cymru a’r Gororau.
“Bydd hyn yn gwneud rheoli cyhoeddiadau clywedol cwbl ddwyieithog a gwybodaeth weledol ar fwrdd ein trenau yn llawer haws.
“Wrth i ni drosglwyddo i’r trenau newydd rydym yn diweddaru cyhoeddiadau sain a gweledol ar ein trenau hŷn lle bo hynny’n bosibl, ond gan fod y systemau sydd ar y trenau hyn yn hŷn, mae’n cymryd mwy o amser nag y byddem yn ddymuno i’w diweddaru.
“Rydym eisoes wedi recordio dros 3,000 o gyhoeddiadau sain newydd yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda dau actor llais newydd, gan ddisodli llais sydd wedi cael ei ddefnyddio ers dros 20 mlynedd.
“Mae TrC yn ymrwymedig i fod yn sefydliad dwyieithog sy’n gweithredu o dan Safonau’r Gymraeg ac mae gennym gynllun gweithredu y cytunwyd arno gyda Chomisiynydd y Gymraeg sy’n amlinellu sut y byddwn yn mynd i’r afael â’r materion â amlygwyd.”