Mae Prifysgol Wrecsam wedi cyflwyno ystod o geisiadau cynllunio am ganiatâd i newid eu harwyddion ar drothwy ailfrandio.

Yn dilyn ymgynghoriad â staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid, mae’r brifysgol yn hepgor ‘Glyndŵr’ o’r enw, a bydd yn cael ei hadnabod fel Prifysgol Wrecsam wrth geisio cryfhau’r brand.

Mae cyfres o geisiadau wedi’u cyflwyno i Gyngor Wrecsam sy’n ymwneud â dileu arwyddion presennol a’u disodli gyda dyluniadau newydd, a chaniatâd adeiladau rhestredig er mwyn cwblhau rhywfaint o’r gwaith.

Mae’r ceisiadau cynllunio’n ymwneud â champws Heol yr Wyddgrug y brifysgol, y Coleg Celf a Bloc John Beal yn y pentref myfyrwyr.

Arwyddion

“Mae’r arwyddion diweddaraf arfaethedig, yn syml, yn ymgais i ddisodli arwyddion presennol ar yr adeilad,” medd asesiad o effaith dreftadaeth gan Cassidy + Ashton, gafodd ei gyflwyno ar gyfer y newidiadau arfaethedig ar gampws Heol yr Wyddgrug.

“Mae’r hyn sy’n cael ei gynnig wedi’i leoli yn lle’r arwydd Prifysgol Glyndŵr diangen.

“Tra nad yw’n ei ddisodli’n union fel ag yr oedd, mae’r arwyddion newydd yn ei hanfod yn ymwneud â newid enw ac felly mae’n cydymffurfio â ffurf, natur a graddau’r presennol.

“Ar sail yr uchod, fydd integriti’r adeilad rhestredig ddim yn cael ei niweidio, gan ddisodli hen nodwedd sy’n cyd-fynd â’r newid enw, tra’n cynnal y cymeriad, ymddangosiad a chymeriad modwlaidd cyffredinol.”

Mae asesiad effaith dreftadaeth yn ymwneud â’r campws yn Regent Street yn rhoi manylion ynghylch y safle rhestredig Gradd II, hen ysbyty, ac yn nodi na fydd cymeriad nac integriti’r adeilad yn cael eu niweidio o ganlyniad i’r newidiadau.

Daeth yn Goleg Technegol Sir Ddinbych yn 1927, ac wedyn yn Ysgol Regent y Celfyddydau Creadigol.

Mae disgwyl nifer o arwyddion ‘Croeso’ newydd ar gyfer mynedfa’r brifysgol ar y prif gampws ar Heol yr Wyddgrug.

Hanes y brifysgol a’i henw

Cafodd ei hadnabod yn y gorffennol fel Sefydliad Addysg Uwch y Gogledd-ddwyrain (NEWI), ond cafodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam statws prifysgol yn 2008 gan ddod yn Brifysgol Glyndŵr, cyn ychwanegu Wrecsam at yr enw yn 2016.

Pan ddaeth NEWI yn brifysgol, cafodd Glyndŵr ei ddewis i fod yn rhan o’r enw fel teyrnged i Owain Glyndŵr, y tywysog canoloesol arweiniodd wrthryfel yn erbyn Coron Lloegr.

“Byddai ailenwi’r brifysgol yn Brifysgol Wrecsam yn helpu i fireinio marchnata ac yn cyfrhau ein brand a’n hunaniaeth,” meddai llefarydd ar ran y brifysgol y llynedd pan ddaeth sôn am newid enw.

“Mae’r brifysgol yn falch o gael ei lleoli yn Wrecsam – lle sy’n datblygu, a gafodd statws dinas yn ddiweddar, ac a ddaeth yn agos yn Ninas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025, ac sydd â chynlluniau buddsoddi ac adfywio uchelgeisiol rydyn ni’n rhan ohonyn nhw.

“Cyplysu lle a phrifysgol mewn ffordd syml yw’r ffordd fwyaf effeithiol o gyrraedd cynulleidfaoedd, ac mae’n cael ei ailadrodd ar draws y sector addysg uwch yn y Deyrnas Unedig.”

Mae’r brifysgol hefyd yng nghanol adfywiad mawr gwerth miliynau o bunnoedd o’i champysau, o’r enw Campws 2025.

Ynghyd â Chyngor Wrecsam, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam, mae hefyd yn bartner allweddol ym Mhrosiect Porth Wrecsam, cynllun dinesig mawr i ailddatblygu’r rhan o’r ddinas sydd ar Heol yr Wyddgrug.

Bydd cynllunwyr Cyngor Wrecsam yn gwneud penderfyniad ar y ceisiadau yn y dyfodol.