Mae Trafnidiaeth Cymru’n rhybuddio teithwyr am oedi ar drenau ar drothwy streiciau dros yr wythnosau nesaf.

Maen nhw’n atgoffa teithwyr i wirio’u teithiau ymlaen llaw, wrth i streiciau gael eu cynnal gan undeb RMT ar Orffennaf 20, 22 a 29.

Mae ASLEF hefyd wedi cyhoeddi gwaharddiad ar weithio gor-amser rhwng Gorffennaf 17-22.

Mae disgwyl i’r streiciau darfu ar wasanaethau 14 o gwmnïau.

Dydy Trafnidiaeth Cymru ddim yn rhan o’r streiciau, ond mae disgwyl i rai o’u gwasanaethau gael eu heffeithio a bod yn brysurach nag arfer o ganlyniad i’r ffaith fod llai o drenau am redeg yn ystod y cyfnod dan sylw.

Mae disgwyl i drenau fod yn brysurach nag arfer yng Nghaerfyrddin, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd Canolog a Chasnewydd yn y de, ac yng Nghaer, Crewe, Amwythig a Manceinion i deithwyr yn y gogledd.