Bydd dros 100 o blant a phobol ifanc yn mynd ar wyliau i wersylloedd yr Urdd dros yr haf, diolch i un o gronfeydd y mudiad ieuenctid.

Eleni, derbyniodd yr Urdd fwy o geisiadau nag erioed ar gyfer y cynllun, gafodd ei sefydlu yn 2019.

Mae’r Gronfa Cyfle i Bawb yn gynllun sy’n cynnig cyfle i blant a phobol ifanc sy’n byw mewn tlodi neu amgylchiadau heriol fynychu Gwersyll Haf yng Nglan-llyn, Llangrannog neu Gaerdydd.

Bydd unarddeg o Wersylloedd Haf yn cael eu cynnal eleni, ac maen nhw’n cynnwys cwrs perfformio, cwrs cerddoriaeth, gwersyll i ddysgwyr, a gwersylloedd antur traddodiadol.

Cyfle i “bob plentyn”

Dywed Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, fod mynd ar wyliau haf yn rywbeth mae llawer yn ei gymryd yn ganiataol.

“Mae llawer o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi neu mewn amgylchiadau lle nad oes cyfle i gael gwyliau Haf,” meddai.

“Mae’r Urdd – a’r Gymraeg – yn perthyn i bawb, ac mae’n flaenoriaeth gennym fel Mudiad i estyn allan a sicrhau bod cyfleodd ar gael ac yn cael eu cynnig i bob plentyn yng Nghymru,” meddai.

“Mae Cronfa Cyfle i Bawb yn gyfle i blant o deuluoedd sydd yn profi tlodi neu fywyd heriol i ymuno mewn Gwersyll Haf yr Urdd.

“Diolch i gwmnïau a chefnogwyr sy’n cyfrannu i’r gronfa, eleni bydd plant o deuluoedd a’r incwm isel neu o dan adain gwasanaethau cymdeithasol, gofalwyr ifanc, plant maeth, a phlant sydd yn profi neu wedi dianc o gartrefi treisgar fwynhau gwyliau Gwersyll Haf.”

Gall unrhyw un gyfrannu at y gronfa, ac yn ystod mis Mai fe wnaeth Walter May, sylfaenydd cwmni GlobalWelsh, a’i ffrindiau gerdded 196 o filltiroedd dros gyfnod o bythefnos ar hyd arfordir Portiwgal er mwyn codi arian.

Gyda chefnogaeth Mistar Urdd, fe wnaeth y pedwar godi £3,200, sydd yn ddigon i dalu am le i ugain o blant ar wersylloedd haf.

‘Cryfhau eu hunaniaeth’

Dywed Diana Lewes-Gale o Adran Gofal Cymdeithasol Ceredigion fod “plant bregus Ceredigion wedi bod yn ffodus iawn i gael mynediad i Gronfa Cyfle i Bawb”.

“Mae wedi rhoi cyfle iddynt feithrin perthynas iach â staff ac mae wedi dod yn lle diogel iddyn nhw,” meddai.

“Mae’r gweithgareddau bob amser yn boblogaidd, ac mae’n hyfryd gweld sut maen nhw’n magu hyder ac yn hapus i roi cynnig ar bethau newydd.

“Mae gweld eu hwynebau pan fyddant yn cyrraedd nod yn wych, ac maent wedi gwneud atgofion hapus y byddant yn eu trysori am byth.

“Mae bod allan yn yr awyr agored, cael y cyfle i ymweld â’r traeth lleol a defnyddio eu sgiliau Cymraeg wedi cryfhau eu hunaniaeth.”