Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Cernyw wedi llofnodi cytundeb i gydweithio’n agos ar feysydd fel tai a dathlu diwylliant ac iaith.

Yng Nghaerdydd heddiw (Gorffennaf 17), llofnododd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ac Arweinydd Cyngor Cernyw, Linda Taylor, gytundeb cydweithio sy’n nodi’r cynllun gweithredu pum mlynedd.

Bydd Cytundeb Cydweithio Treftadaeth Geltaidd Cernyw-Cymru yn canolbwyntio ar bedwar maes – tai cynaliadwy, cyflawni sero net, economïau gwledig ffyniannus, a dathlu diwylliant ac iaith.

Mae’r Prif Weinidog a Linda Taylor wedi bod yn trafod dyfnhau’r berthynas ers y llynedd ac wedi bod yn gweithio tuag at drefniant ffurfiol.

‘Dysgu gan ein gilydd’

Dywedodd Mark Drakeford bod “llawer o gysylltiadau hanesyddol, diwylliannol ac ieithyddol rhyngom ni a Chernyw, ac mae gan ein heconomïau a’n poblogaethau lawer o nodweddion tebyg”.

“Mae’r elfennau cyffredin hyn yn ein galluogi i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn meysydd sy’n effeithio ar ein poblogaethau, yn enwedig y meysydd sy’n cael sylw yn y cytundeb heddiw.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agosach, adeiladu ar ein perthynas gref, rhannu arferion gorau ac ystyried meysydd eraill y gallwn gydweithio arnynt yn y dyfodol.”

‘Gwych o safbwynt diwylliannol’

Ychwanegodd Linda Taylor ei bod hi wrth ei bodd eu bod nhw wedi gallu dod i gytundeb ffurfiol.

“Mae Cernyw yn falch o’i threftadaeth Geltaidd, ac mae’r ffaith fod cymaint o gysylltiadau diwylliannol â Chymru yn dangos yn glir i mi y byddai cryfhau ein cysylltiadau o fudd enfawr i’r ddwy ochr,” meddai.

“Mae tai fforddiadwy a chynaliadwy, yr angen i gyflawni sero net, a dulliau o fynd ati i greu economïau gwledig ffyniannus yn feysydd allweddol i Gernyw ac i Gymru, a bydd gallu cyfnewid gwybodaeth yn ddefnyddiol iawn i bawb.

“Mae’n beth gwych i ni o safbwynt diwylliannol hefyd.

“Rwy’n gwybod y gallwn ddysgu o lwyddiant twf y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rwy’n edrych ymlaen at rannu â’n gilydd ein ffyrdd o ddathlu ein diwylliant cyfoethog a hynafol.

“Mae hyn yn newyddion da i Gernyw ac i Gymru, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi cymryd y cam hwn ymlaen.”