Mae’r nifer uchaf erioed o barciau a mannau gwyrdd ledled Cymru wedi cyrraedd y safon uchaf er mwyn cael dynodiad Baner Werdd.

Ymysg y llefydd sydd wedi ennill Gwobr Y Faner Werdd am y tro cyntaf heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 18), mae Parc Tredelerch yng Nghaerdydd a champysau Prifysgol Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan.

Mae’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi heddiw bod 280 o fannau wedi derbyn gwobr ryngwladol Y Faner Werdd neu Wobr Gymunedol y Faner Werdd, 37 ohonyn nhw am y tro cyntaf eleni.

Bellach yn ei thrydydd degawd, mae Gwobr Y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli’n dda mewn ugain o wledydd ar draws y byd.

Gorsaf drên y Waun ger Croesoswallt yw’r orsaf gyntaf i ennill Gwobr Gymuned y Faner Werdd, ac mae’r rhestr yn cynnwys dau bwll cymunedol yng Nghasnewydd a gorsaf dân ym Mro Morgannwg hefyd.

Mannau gwyrdd newydd

Pen-y-bont ar Ogwr

  • Gorsaf Dân ac Achub Bro Ogwr, Gwobr Gymunedol

Caerffili

  • Rhandiroedd Van Ward, Gwobr Gymunedol

Caerdydd

  • Parc Tredelerch, Gwobr Lawn
  • Mynwent y Gorllewin, Gwobr Lawn
  • Tyfu’n Dda Glan yr Afon, Gwobr Gymunedol
  • Rhandiroedd Pafiliwn Pengam, Gwobr Gymunedol
  • Gerddi’r Rheilffordd, Gwobr Gymunedol
  • Gardd Bantri Llaneirwg, Gwobr Gymunedol

Sir Gaerfyrddin

  • Parc Coetir Mynydd Mawr, Gwobr Lawn
  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Campws Caerfyrddin, Gwobr Lawn
  • Cae Chwarae Coffa Llanfallteg, Gwobr Gymunedol

Ceredigion

  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Campws Llanbedr Pont Steffan, Gwobr Lawn
  • Cymunedau MHA Aberystwyth – Hafan y Waun, Gwobr Gymunedol
  • Maes y Pentref Silian, Gwobr Gymunedol

Sir Ddinbych

  • Llys Erw, Gwobr Gymunedol
  • Outside Lives, Gwobr Gymunedol

Merthyr Tudful

  • Gardd Gymunedol Bythynnod Hafod, Gwobr Gymunedol
  • Parc Penydarren, Gwobr Gymunedol

Sir Fynwy

  • Dolydd Caerwent, Gwobr Gymunedol

Castell-nedd Port Talbot

  • Perllan Gymunedol Cwmafan, Gwobr Gymunedol

Casnewydd

  • Ardal Gymunedol Pwll y Pentref Trefesgob, Gwobr Gymunedol
  • Pwll Llyswyry, Gwobr Gymunedol

Sir Benfro

  • ‘Garden Through Time’ Tabernacl, Gwobr Gymunedol;

Powys

  • Gardd Gymuned Arlais, Gwobr Gymunedol

Rhondda Cynon Taf

  • Gardd Gymunedol Rhandir Brynna, Gwobr Gymunedol
  • Gardd Gymunedol Efail Isaf, Gwobr Gymunedol
  • Gardd Gymunedol a Choetir Stryd y Ddôl, Gwobr Gymunedol
  • Canolfan yr Henoed Penrhiwceibr, Gwobr Gymunedol

Abertawe

  • Ysbyty Mount Pleasant, Gwobr Lawn
  • Meithrinfa Gymunedol Coeden Fach, Gwobr Gymunedol
  • Cyfeillion Parc Coed Gwilym, Gwobr Gymunedol
  • Parc Pontlliw, Gwobr Gymunedol
  • Gardd Gymunedol Mynwent Llansamlet, Gwobr Gymunedol

Torfaen

  • Parc Pwll Pysgod Panteg, Gwobr Gymunedol
  • Gardd Gymunedol Clwb Rygbi Ger-yr-Efail, Gwobr Gymunedol

Bro Morgannwg

  • Mynwent Penarth, Gwobr Lawn
  • Eglwys Unedig y Barri – Gardd Gymunedol ‘The Bridge Between’, Gwobr Gymunedol

Wrecsam

  • Gorsaf Y Waun, Gwobr Gymunedol

‘Hafan i gymunedau’

Dywed Lucy Prisk, cydlynydd Y Faner Werdd i Cadwch Gymru’n Daclus, fod mynediad am ddim i fannau gwyrdd diogel ac o safon uchel mor bwysig ag erioed.

“Mae ein safleoedd sydd wedi ennill gwobr yn allweddol i iechyd meddwl a chorfforol pobol, drwy gynnig hafan i gymunedau ddod at ei gilydd, ymlacio a mwynhau natur,” meddai.

“Mae’r newyddion bod 280 o barciau yng Nghymru wedi ennill gwobr Y Faner Werdd yn dangos gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr.

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dathlu eu llwyddiant ar lefel fyd-eang.”

‘Rôl allweddol’

Ychwanega Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ei bod hi’n wych gweld y nifer uchaf erioed o fannau gwyrdd yn llwyddo i gael statws Y Faner Werdd, gan gynnwys nifer o fannau sy’n derbyn y wobr am y tro cyntaf.

“Mae’r safon sydd ei hangen i ennill statws Y Faner Werdd yn uchel iawn ac felly hoffwn longyfarch pob un o’r mannau sydd wedi cael cydnabyddiaeth am gynnig cyfleusterau gwych drwy gydol y flwyddyn i bobl leol ac ymwelwyr,” meddai.

“Mae ein mannau gwyrdd yn chwarae rôl allweddol yn ein cysylltu â natur, yn cynorthwyo bioamrywiaeth a chynnig cyfleoedd hamdden iach.”