Mae ymchwil newydd gan Saga yn dangos bod Caerdydd ymhlith y dinasoedd mwyaf cyfeillgar i seiclwyr yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r rhestr wedi’i chreu ar sail argaeledd cynlluniau rhannu beiciau, diogelwch seiclwyr, nifer y llwybrau seiclo, mynediad at siopau beiciau, y tebygolrwydd y bydd beiciau’n cael eu dwyn, ac effaith y tywydd lleol ar seiclo.
Ledled y Deyrnas Unedig, mae Cymru ar y brig o blith y gwledydd a’r rhanbarthau gyda’i gilydd o ran lle mae seiclwyr yn rhan o gymuned neu glwb seiclo (29%).
Mae 39% o bobol gafodd eu holi yng Nghymru’n cytuno bod gan eu dinas gyfleusterau da ar gyfer seiclo, gyda 48% hefyd yn dweud bod gan eu dinas drafnidiaeth gyhoeddus dda hefyd.
Roedd Cymru ar y brig o ran nifer y bobol ddywedodd mai seiclo yw eu prif ddull o deithio (17%), a dywedodd 58% o seiclwyr eu bod nhw’n arbed rhwng unarddeg ac ugain munud bob wythnos drwy seiclo.
Byddai 18% o’r rhai nad ydyn nhw’n seiclo ar hyn o bryd yn barod i roi cynnig arni fel hobi neu fel dull o deithio.
Yn ôl 23%, mae prinder lonydd seiclo yng Nghymru.
Y darlun trwy’r Deyrnas Unedig
Cafodd 2,000 o oedolion eu holi fel rhan o’r arolwg.
Norwich ddaeth i’r brig fel y ddinas fwyaf cyfeillgar i seiclwyr, o flaen Newcastle, Belfast, Nottingham a Glasgow.
Cadw’n heini yw’r prif reswm pam fod pobol yn seiclo (79%), ond mae’r ffigwr yn codi i 91% ymhlith pobol dros 50 oed.
Dywedodd 57% eu bod nhw’n seiclo er mwyn gwella’u hiechyd meddwl, gyda 54% yn datgan eu bod nhw’n awyddus i gyfrannu at yr amgylchedd.
Dywedodd 34% y bydden nhw’n arbed rhwng £11 ac £20 yr wythnos pe baen nhw’n seiclo yn hytrach na defnyddio dulliau eraill o deithio, tra bod 16% yn dweud y byddwn nhw’n arbed rhwng £21 a £30 yr wythnos.
Yn ôl 57%, ffyrdd peryglus yw’r rhwystr mwyaf sy’n wynebu seiclwyr.
‘Ymdrech sylweddol’
“Er nad yw’r Deyrnas Unedig wedi cyrraedd statws hafan seiclo fel yr Iseldiroedd eto, mae’n wych gweld cynifer o ddinasoedd ledled y wlad yn gwneud ymdrech sylweddol i wella llwybrau seiclo a dod yn fwy hygyrch,” meddai Kevin McMullan, Cyfarwyddwr PMI ac Yswiriant Teithio Saga.
“Fodd bynnag, er gwaetha’r twf hwn, mae nifer o Brydeinwyr o hyd nad ydyn nhw’n teimlo bod gan eu dinas gyfleusterau da i seiclwyr – ac i oresgyn hyn, dylid ystyried mwy o fuddsoddiad ledled y wlad.
“Drwy wella isadeiledd seiclo a blaenoriaethu diogelwch ffyrdd, nid yn unig mae’r seiclwyr mwyaf profiadol dros 50 oed ar eu hennill drwy eu galluogi nhw i gynnal eu gweithgarwch corfforol rheolaidd, ond hefyd rydym yn meithrin amgylchfyd seiclo-gyfeillgar sy’n grymuso unigolion o bob oed i brofi effaith bositif seiclo.
“Wrth i’r gwelliannau hyn gael eu cyflwyno, bydd llai o rwystrau i fynediad ar gyfer seiclwyr, a gall mwy o bobol heini o bob oed ddefnyddio beic a theimlo’n ddiogel wrth wneud hynny.”