Mae pobol ar y ddwy ochr i’r ddadl ynghylch a ddylid cydnabod pobol frodorol Awstralia yng nghyfansoddiad y wlad wedi dechrau dosbarthu pamffledi.

Bydd gofyn i drigolion y wlad fwrw eu pleidlais mewn refferendwm ar y mater yn ddiweddarach eleni.

Bydd rhaid iddyn nhw ystyried a ydyn nhw’n cefnogi addasu’r cyfansoddiad fel ei fod yn cynnwys ‘Llais i’r senedd’, sef pwyllgor brodorol i gynghori’r senedd ar faterion sy’n effeithio ar yr Aborijini a thrigolion Ynys Torres Strait.

Does dim sôn am bobol o’r Genedl Gyntaf yng nghyfansoddiad Awstralia ar hyn o bryd.

Mae pamffledi’r ddwy ochr wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Comisiwn Etholiadol Awstralia ar ddechrau’r ymgyrch.

Mae’r garfan sydd yn gwrthwynebu newid y cyfansoddiad yn annog pobol i’w cefnogi nhw os ydyn nhw’n ansicr ynghylch y mater, wrth iddyn nhw gynnig deg rheswm dros bleidleisio ‘Na’, gan gynnwys ansicrwydd ac y byddai’n achosi hollt parhaol.

Mae’r rhai sydd o blaid pleidleisio ‘Ie’ yn dweud y byddai’n “uno’r genedl”, yn cydnabod diwylliant brodorol sydd wedi para 65,000 o flynyddoedd, ac yn creu manteision ym meysydd iechyd, addysg, cyflogaeth a thai.

Mae’r Aborijini’n cyfrif am 3.2% o boblogaeth Awstralia, sydd oddeutu 26m, ond maen nhw ar ei hôl hi’n gymdeithasol o gymharu â gweddill y boblogaeth.

Tra bod y mwyafrif o bobol frodorol yn cefnogi newid y cyfansoddiad, mae rhywfaint o ostyngiad yn y gefnogaeth wedi bod yn ddiweddar yn ôl y polau piniwn diweddaraf.

Sut mae newid y cyfansoddiad?

Mae ceisio cyflwyno newidiadau cyfansoddiadol yn broses anodd yn Awstralia.

Byddai’n rhaid i’r llywodraeth gael mwyafrif dwbwl, sy’n golygu mwy na 50% o bleidleiswyr ar draws y wlad, a mwyafrif mewn o leiaf pedair talaith.

Fe fu 44 cynnig blaenorol i newid y cyfansoddiad mewn 19 refferendwm, ond dim ond wyth sydd wedi cael eu pasio.

Does dim dyddiad wedi’i bennu eto ar gyfer y refferendwm, ond mae disgwyl iddo gael ei gynnal rhwng Hydref a Rhagfyr.