Bydd dau gylchgrawn Cymraeg newydd yn cael eu cyhoeddi eleni yn sgil grantiau gan y Cyngor Llyfrau i beilota dau deitl newydd.

Bydd Golwg yn lansio cylchgrawn digidol ar chwaraeon erbyn yr hydref, a bydd Gwasg Carreg Gwalch yn lansio cylchgrawn hanes, Hanes Byw, ym mis Medi.

Mae’r ddau deitl yn cael eu sefydlu trwy gyllideb gan y Cyngor Llyfrau, sy’n cefnogi cylchgronau Cymru yn y Gymraeg ac yn Saesneg ar bynciau o bob math, yn sgil arian grant gan Cymru Greadigol.

O’r chwaraeon ‘prif ffrwd a phoblogaidd i chwaraeon llai amlwg’

“Mae Golwg yn falch iawn o’r cyfle i arbrofi gyda chylchgrawn chwaraeon newydd ac mae’r cynlluniau sydd gennym yn rai cyffrous,” meddai Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg Cyf.

“Rydym yn awyddus i geisio datblygu gwasanaeth sy’n arloesol yn y Gymraeg ac sy’n cynnig sylwebaeth arbenigol ar nifer o gampau gwahanol – o’r rhai prif ffrwd a phoblogaidd i chwaraeon llai amlwg.

“Byddwn yn cyhoeddi mwy o wybodaeth am union natur y cylchgrawn, ond rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sy’n awyddus i gyfrannu at y prosiect, trwy e-bostio owainschiavone@golwg.cymru.”

Hanes Byw

“Yr hyn a anelir ato yw codi straeon o hanes ac archaeoleg, gwreiddiau geiriau a chwedlau, traddodiadau a chelfyddyd sy’n berthnasol o hyd i’n bywydau heddiw, yn taflu golau ar ambell broblem gyfoes,” meddai Owain ap Myrddin o Wasg Carreg Gwalch.

“Bydd hefyd yn cynnwys elfennau storïol, hanes llawr gwlad y byddai trwch y gymdeithas Gymraeg yn medru ymhyfrydu ynddo a theimlo’n gyfforddus i gyfrannu iddo.

“Bydd prif faes yr erthyglau yn perthyn i’r 250 mlynedd diwethaf. Bydd pwyslais ar blethu’r gorffennol gyda heddiw – bod dylanwad ddoe i’w ganfod ym mywyd y dydd hwn.”

Bydd y cylchgrawn Hanes Byw yn cael ei lansio ar Fedi 28, gyda phedwar rhifyn y flwyddyn ar gael mewn siopau llyfrau neu trwy danysgrifio ar wefan Carreg Gwalch.

Bwlch yn y ddarpariaeth

“Rydym ni’n falch iawn o gefnogi peilot ar gyfer y ddau gylchgrawn yma sy’n ychwanegu pynciau newydd i’r farchnad cylchgronau Cymraeg,” meddai Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau.

“Sylwodd y panel annibynnol, sy’n dyfarnu’r grant cylchgronau, ar fwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer cylchgronau’n ymwneud â chwaraeon a hanes poblogaidd.

“Felly rydym ni wedi gallu cynnig grant un flwyddyn o £30,000 yr un i beilot cylchgronau newydd ar y pynciau hyn ac i ehangu’r dewis i ddarllenwyr.”

Lansio cylchgrawn hanes newydd wrth i Llafar Gwlad ddod i ben

Cadi Dafydd

Bydd pwyslais y cylchgrawn newydd ar sut mae gwreiddiau’r hyn sy’n digwydd heddiw yn perthyn i wahanol gyfnodau mewn hanes