Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd newydd Plaid Cymru, wedi cyhoeddi ei dîm cysgodol fydd yn cyflwyno’r weledigaeth o sicrhau “Cymru decach, wyrddach, fwy uchelgeisiol a llewyrchus”.
Bydd ffocws y blaid yn y Senedd yn “gadarn” ar faterion allweddol, meddai, a’r rheiny’n cynnwys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, tai a chostau byw.
Bydd y Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Lafur Cymru’n parhau, meddai, wrth i’r Blaid anelu i “gyflawni addewidion i newid bywydau pobol er gwell, megis prydau ysgol am ddim a diwygio’r Senedd, tra hefyd yn dwyn Llafur i gyfrif lle mae diffygion”.
Delyth Jewell fydd ei ddirprwy arweinydd yn y Senedd, a bydd hi’n dirprwyo dros Rhun ap Iorwerth yn y Senedd yn ei absenoldeb pan fydd angen.
Llŷr Gruffydd fydd Cadeirydd Grŵp y Senedd o hyd, tra bydd Heledd Fychan yn Rheolwr Busnes.
Mabon ap Gwynfor fydd Prif Chwip y blaid, a bydd ganddo fe gyfrifoldeb dros Iechyd a Gofal hefyd.
Dyma’r rolau’n llawn:
Rhun ap Iorwerth – Arweinydd
Delyth Jewell – Dirprwy Arweinydd yn y Senedd; Newid Hinsawdd
Llŷr Gruffydd – Cadeirydd; Materion Gwledig
Heledd Fychan – Rheolwr Busnes; Addysg, y Gymraeg a Diwylliant
Mabon ap Gwynfor – Prif Chwip; Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Thai
Adam Price – Cyfiawnder a Materion Ewropeaidd
Peredur Owen Griffiths – Cyllid a Llywodraeth Leol
Sioned Williams – Cyfiawnder Cymdeithasol a Gwasanaethau Cymdeithasol
Luke Fletcher – yr Economi
Siân Gwenllian – Aelod Dynodedig Arweiniol
Cefin Campbell – Aelod Dynodedig
‘Tîm unedig, talentog ac ymroddedig’
“Rwy’n falch o arwain tîm unedig, talentog ac ymroddedig yn y Senedd fydd yn adeiladu Cymru decach, wyrddach, uchelgeisiol a mwy llewyrchus,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Bydd ein ffocws gadarn a chlir wrth i ni fynd i’r afael â materion y dydd: y gwasanaeth iechyd, tai, a’r economi – gan ganolbwyntio ar yr argyfwng costau byw a sicrhau gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy.
“Byddwn yn gweithio’n ddiwyd i gyflawni dros ein cymunedau a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gan weithio ar y cyd â’r llywodraeth lle mae tir cyffredin ond ar yr un pryd eu dwyn i gyfrif lle mae diffyg brys a darpariaeth.
“Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i ddadlau bod budd gorau Cymru yn cael ei wasanaethu drwy wneud ein penderfyniadau ein hun fel cenedl.
“Drwy siarad â’r rhai sy’n hyderus am annibyniaeth yn ogystal a’r rhai nad yw eu diddordeb wedi’i danio eto, byddwn yn parhau i adeiladu’r achos dros annibyniaeth a dyfodol mwy disglair i bawb.”