Mae Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, wedi ymddiheuro am fynychu digwyddiad yn San Steffan tra bod cyfyngiadau Covid-19 mewn grym.

Adroddodd gwefan Guido Fawkes fod yr Aelod Seneddol Ceidwadol wedi cyd-gynnal digwyddiad ar Ragfyr 8, 2020.

Dyfynnodd y wefan neges WhatsApp gan y Farwnes Anne Jenkin, oedd y disgrifio’r digwyddiad fel “diodydd pen-blwydd ar y cyd” i “rai o’u hoff bobol”.

Gwadodd Virginia Crosbie ei bod hi wedi gyrru gwahoddiadau i’r parti, ond cadarnhaodd fod y digwyddiad wedi’i gynnal.

Ar adeg y digwyddiad, roedd Llundain yn dal dan gyfyngiadau oedd yn gwahardd cymysgu dan do gyda phobol o wahanol aelwydydd.

‘Ennyd o gamgymeriad’

“Ynghylch adroddiadau am ddigwyddiad a gynhaliwyd ar Ragfyr 8, 2020, hoffwn nodi’r ffeithiau,” meddai Virginia Crosbie.

“Ni chafodd y gwahoddiad ar gyfer y digwyddiad hwn ei anfon allan gen i.

“Mynychais y digwyddiad am gyfnod byr, wnes i ddim yfed a doeddwn i ddim yn dathlu fy mhen-blwydd.

“Es i adref yn fuan wedyn i fod gyda fy nheulu.

“Rwy’n ymddiheuro’n ddiamod am ennyd o gamgymeriad wrth fynychu’r digwyddiad.”

‘Dangos dirmyg at y bobol mae hi yn eu cynrychioli’

Dywed Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Mon, y bydd pobol yr ynys yn “hynod siomedig” fod Virginia Crosbie wedi “torri rheolau Covid trwy bartïo yn Llundain”.

“Fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Matt Hancock yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y pryd, roedd Ms Crosbie yn llwyr ymwybodol ei bod yn torri’r rheolau wrth fynychu parti pen-blwydd ynghyd â sawl Aelod Seneddol Ceidwadol arall,” meddai.

“Rydym yn ymwybodol o’i pharodrwydd i weld bai ar wleidyddion am gamymddwyn.

“Wrth bartïo yn Llundain tra bod ein bod ni ar Ynys Môn yn cadw at y rheolau, mae Ms Crosbie wedi dangos dirmyg at y bobol mae hi yn eu cynrychioli yn ogystal â’r cyfreithiau roedd hi ei hun yn rhannol gyfrifol am eu llunio.

“O dan yr amgylchiadau, rwy’n gobeithio bydd Ms Crosbie yn cyfeirio ei hun at Heddlu Llundain ac at Gomisiynydd Safonau San Steffan er mwyn iddyn nhw ymchwilio os oedd y parti yn anghyfreithlon ac os bydd angen unrhyw gamau pellach.”