Mae’r comedïwr a’r cyflwynydd Tudur Owen yn rhybuddio y gall enwau lleoedd Cymraeg ddiflannu os nad ydyn nhw yn cael eu defnyddio.
Daw’r rhybudd fel rhan o gyfres o eitemau i wefannau cymdeithasol S4C.
Yn ôl Tudur Owen, mae’r enwau Cymraeg yma yn perthyn i bawb, gan gynnwys pobol sy’n byw y tu allan i Gymru.
Mae chwe ffilm fer wedi’u creu fel rhan o gyfres boblogaidd Cynefin, ac maen nhw’n cael eu cyhoeddi yn dilyn dadlau brwd yn y cyfryngau am benderfyniad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i beidio â defnyddio eu henw Saesneg.
Drwy gyflwyno cyfoeth hanes enw chwe lleoliad gan gynnwys y Bannau, Llandysul, Y Gogarth yn Llandudno, Betws-y-coed a Phenychain ger Pwllheli, mae Tudur Owen yn gobeithio sbarduno pobol i drysori a defnyddio’r enwau Cymraeg.
Mae’r chwe ffilm fer wedi cael eu cynhyrchu i S4C gan Rondo ac fe fydd yr eitemau ar gael i’w gwylio ar blatfformau YouTube, Facebook, Twitter a TikTok S4C.
Er mwyn lledaenu’r neges am bwysigrwydd enwau Cymraeg mor eang â phosib, mae Tudur Owen hefyd wedi paratoi fersiynau o’r eitemau yn Saesneg.
‘Dw i’n angerddol am enwau llefydd Cymraeg’
“Dwi’n angerddol am enwau llefydd Cymraeg,” meddai Tudur Owen.
“Dwi’n meddwl bod nhw’n bwysig gan eu bod nhw nid yn unig yn dweud wrthan ni lle ydan ni, ond hefyd pwy ydan ni.
“Mae yna wastad, yn amlach na pheidio, stori dda tu ôl i enwau Cymraeg – mae yna ganrifoedd o hanes i ddechrau efo hi.
“Mae’n bwysig cadw gafael arnyn nhw achos rydan ni’n gweld nhw’n diflannu ac yn gweld nhw fel rhyw fath o symptom o’r bygythiad sydd yna i gymdeithas fel mae pethau’n newid.
“Dwi’n trio peidio pregethu’n ormodol ond ein henwau ni ydyn nhw, ac maen nhw’n perthyn i bawb – gan gynnwys pobol tu allan i Gymru.
“Maen nhw’n rhan o hanes Ynysoedd Prydain wedi’r cyfan – yn rhywbeth i’w trysori a’u gwarchod.
“Be dw i’n obeithio ydi y bydd pobol yn cael y wybodaeth o’r ffilmiau bach yma ac wedyn yn medru gwneud penderfyniad dros eu hunain, achos dwi’n meddwl bod hi’n gamgymeriad i draethu a deddfu a gorfodi pobol i’w defnyddio.
“Mae’n rhaid i bobol eu defnyddio nhw o’u gwirfodd, a gwneud y penderfyniad wedi cael y wybodaeth i gyd.”
‘Ehangu dealltwriaeth o darddiad ein henwau llefydd’
“Mae’r ddadl dros y defnydd o enwau llefydd Cymraeg wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar, ac felly mae Tudur, sydd mor angerddol am y pwnc yn un delfrydol i gyflwyno’r pecynnau,” meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C.
“Mae hefyd yn bwysig bod cynnwys o’r math yma ar gael i’r di-Gymraeg gan fod ganddo gyfraniad mor werthfawr i’w wneud i ehangu dealltwriaeth o darddiad ein henwau llefydd.
“Y gobaith yw, drwy gyfrwng ein platfformau cyfryngau cymdeithasol, y bydd yr eitemau hyn yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib.”