Mae apêl o’r newydd am ddirgelwch marwolaeth bachgen 15 oed o Fae Colwyn a fu farw yn Llundain ddeugain mlynedd yn ôl.

Fe adawodd Peter Watts ei gartref ym Mae Colwyn ar Ionawr 18, 1976. Fe ddaethpwyd o hyd iddo wedi’i anafu’n ddifrifol yn ystod oriau man y bore wedyn ar danffordd Heol Euston.

Er gwaethaf sawl apêl, nid yw ditectifs wedi llwyddo i ganfod y gwir am yr hyn a ddigwyddodd iddo.

“Roedd e’n dod o deulu clòs a chariadus, ond mae’n drasig fod ei rieni wedi marw heb gael atebion i’w farwolaeth,” meddai Ditectif Arolygydd Susan Stansfield o Scotland Yard.

‘Marwolaeth anesboniadwy’

Pan adawodd Peter Watts ei gartref yn 1976, fe ddywedodd wrth ei rieni ei fod yn bwriadu helpu ffrind gyda’i waith cartref, ond credir iddo deithio o Fae Colwyn i Gaer ac yna i Lundain ar drên.

Tua 1.30yb y diwrnod canlynol, fe ddaeth gyrrwr tacsi o hyd i Peter Watts ar danffordd Heol Euston. Roedd ganddo anafiadau, ond nid oedd dim yn awgrymu iddo gael ei wthio neu ei fod wedi bod yn rhan o wrthdrawiad ffordd.

Doedd dim tystiolaeth chwaith o ymosodiad rhywiol. Ond, roedd ei oriawr a’i sbectol ar goll, a dy’n nhw heb gael eu darganfod hyd yn hyn.

“Mae’r ymchwiliad yn parhau ei gael ei drin fel marwolaeth anesboniadwy,” meddai. “Dy’n ni ddim wedi cael unrhyw wybodaeth i awgrymu fod unrhyw un arall ynghlwm â marwolaeth Peter, ond rydyn ni’n awyddus i siarad ag unrhyw un all gynorthwyo,” meddai’r Ditectif Arolygydd, Susan Stansfield.

‘Cwestiynau heb eu hateb’

Fe ddywedodd ei frawd, Mark Watts, 57 oed, fod ei rieni wedi teimlo’n euog.

“Os dych chi’n rhiant ac yn colli eich plentyn dych chi wastad yn ysgwyddo’r euogrwydd a’r bai. Yn achos Peter, mae yna gymaint o gwestiynau heb eu hateb.”

Mae’n ofni na fydd byth yn gwybod beth ddigwyddodd i’w frawd.

“Dyw’r heddlu ddim yn gallu gwneud dim byd heb wybodaeth. Mae rhywun siŵr o fod yn gwybod mwy am oriau olaf fy mrawd nag ydw i. Ond efallai eu bod hwythau wedi marw erbyn hyn.”

Roedd Peter Watts yn fachgen 5 troedfedd 11 modfedd gyda gwallt a llygaid brown. Dylai unrhyw un a gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 020 7230 7963 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.