Yr Arglwydd Janner
Roedd methiannau gan yr heddlu ac erlynwyr wedi golygu bod tri chyfle wedi’u colli i gyhuddo’r Arglwydd Greville Janner ynglŷn â honiadau am gam-drin rhywiol, yn ôl adroddiad annibynnol.
Roedd dioddefwyr honedig wedi mynegi eu siom ar ôl i achos troseddol gael ei ollwng ddydd Gwener, ddegawdau ar ôl iddyn nhw ei gyhuddo o gam-drin.
Heddiw, daeth adroddiad gan farnwr yr Uchel Lys Syr Richard Henriques i’r casgliad bod:
- Y penderfyniad i beidio cyhuddo’r Arglwydd Janner yn 1991 yn anghywir a bod digon o dystiolaeth i’w gyhuddo o ymosod yn anweddus. Fe wnaed y penderfyniad yn dilyn ymchwiliad “annigonol” gan yr heddlu ac fe ddylai fod wedi cael ei ohirio.
- Yn 2002, fe fethodd yr heddlu a chyfeirio honiadau pellach yn erbyn yr Arglwydd Janner at Wasanaeth Erlyn y Goron;
- Yn 2007 roedd digon o dystiolaeth i erlyn y gwleidydd am ymosod yn anweddus. Fe ddylai fod wedi cael ei arestio a’i holi a’i gartrefi wedi’i archwilio.
‘Gofid’
Dywedodd y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus Alison Saunders: “Mae casgliadau’r ymchwiliad bod camgymeriadau wedi cael eu gwneud yn cadarnhau fy safbwynt bod methiannau yn y gorffennol gan erlynwyr a’r heddlu yn golygu na chafodd cyhuddiadau eu dwyn.
“Mae’n destun gofid dwys na chafodd cyfleoedd eu cymryd ar dri achlysur i gyflwyno’r honiadau yma yn erbyn yr Arglwydd Janner gerbron rheithgor.”
Ychwanegodd bod gwersi i’w dysgu “er mwyn sicrhau nad yw camgymeriadau o’r fath yn digwydd eto.”
Penderfyniad dadleuol
Bu farw’r Arglwydd Janner ym mis Rhagfyr yn 87 oed ar ôl i farnwr benderfynu nad oedd yn ddigon iach i sefyll ei brawf ar ôl cael ei gyhuddo o gyfres o droseddau rhyw yn dyddio nôl i’r 1960au yn erbyn naw dioddefwr honedig – roedd y rhan fwyaf o dan 16 oed ar y pryd.
Fe wnaeth Alison Saunders y penderfyniad dadleuol y llynedd na ddylai’r Arglwydd Janner, a oedd yn dioddef o ddementia, gael ei gyhuddo oherwydd ei salwch.
Cafodd y penderfyniad ei wyrdroi yn dilyn adolygiad annibynnol y llynedd. Roedd disgwyl i wrandawiad arbennig gael ei gynnal eleni, ond yr wythnos ddiwethaf cafodd yr achos troseddol ei ollwng yn ffurfiol yn dilyn marwolaeth yr Arglwydd Janner.