Mae’r Llys Apêl wedi gwrthod cais gan rieni sy’n gwrthwynebu cwricwlwm addysg rhyw newydd Cymru i apelio dyfarniad yr Uchel Lys y llynedd.

Cyn y Nadolig, fe wnaeth yr Uchel Lys wrthod eu hawliadau’n ymwneud ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd.

Roedd y pum rhiant yn gwrthwynebu’r addysg ar seiliau athronyddol neu grefyddol, ac yn dymuno gallu esgusodi eu plant o’r gwersi.

Daeth yr Uchel Lys i’r casgliad y llynedd fod yr Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb gorfodol “yn ganlyniad proses ofalus o ystyriaeth”.

‘Gwerthoedd craidd’

Yn y Llys Apêl yr wythnos ddiwethaf, dywedodd yr Arglwydd Ustus Males fod heriau’r hawlwyr i’r Cod a’r Canllawiau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn seiliedig ar y ddadl bod y dogfennau’n ei gwneud hi’n orfodol i ddysgu a “hyrwyddo ffyrdd o fyw rhywiol penodol sy’n gyfystyr â chyflyru”.

“Fodd bynnag, fel mae’r ymatebwyr yn nodi’r broblem allweddol gyda’r heriau hyn yw nad yw’r Cod a’r Canllawiau’n gwneud y fath beth,” meddai.

O ran sut mae’r Cod a’r Canllawiau’n mynd i’r afael â materion yn ymwneud â gwahanol rywioldebau, adnabod hunaniaeth o ran rhywedd a thriniaeth barchus o bobol LHDTC+, dywedodd y barnwr ei bod hi’n “annirnadwy y gall y fath addysg fynd yn groes i’r gyfraith gyffredin na’r Ddeddf Hawliau Dynol”.

“I’r gwrthwyneb, mae amrywiaeth a chynhwysiad (gan gynnwys i’r gymuned LHDTC+) yn werthoedd craidd i gymdeithas Prydain (gan gynnwys Cymru).”

‘Hyrwyddo perthnasau iach’

Wrth ymateb, dywed Llywodraeth Cymru fod y sylwadau’n “gyfiawnhad pwysig” o’r dull gweithredu ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

“Bwriad y dull hwnnw yw cadw plant yn ddiogel a hyrwyddo cydberthnasau iach a pharchus,” meddai llefarydd.

“Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ysgolion sicrhau bod y dysgu’n briodol yn ddatblygiadol, a darparu gwybodaeth am Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy’n cynnwys ystod o safbwyntiau ar y pwnc ac nad yw’n ceisio hyrwyddo un farn dros un arall.”

I gefnogi hynny, mae swyddogion yn gweithio gydag arbenigwyr ym maes addysg i adolygu’r adnoddau sydd ar gael i ysgolion, fel y gall athrawon a rhieni “fod yn hyderus ac yn sicr eu bod nhw’n briodol”.

Maen nhw hefyd yn annog ysgolion i gymryd eu hamser i sicrhau eu bod nhw’n ymgysylltu â rhieni a gofalwyr.

“Wrth i’r flwyddyn academaidd fynd yn ei blaen, mae rhai dulliau cadarnhaol iawn yn dod i’r amlwg sydd wedi cynnwys rhieni a gofalwyr ac wedi rhoi eglurder ynghylch yr hyn a ddysgir a phryd a pha adnoddau fydd yn cael eu defnyddio.

“Mae’r tryloywder hwn, ynghyd â deialog adeiladol, agored lle mae materion yn cael eu codi, yn hanfodol i sicrhau hyder rhieni a gofalwyr.”

Llun o fyrddau a chadeiriau lliwgar mewn dosbarth

Rhieni wedi colli her gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Cymru

Lansiodd ymgyrchwyr adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys yn erbyn cwricwlwm addysg perthnasau a rhywioldeb newydd Llywodraeth Cymru