Mae cynghorydd yng Ngwynedd yn dweud y bydd y gwaith o ddiogelu ardal Hirael ym Mangor rhag llifogydd o fudd mawr i’r gymuned, er gwaetha’r anghyfleustra fydd yn cael ei achosi yn y tymor byr.

Bydd y prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru, yn dechrau’r mis yma, gyda’r nod o’i gwblhau ymhen deng mis.

Bwriad y gwaith yw diogelu ardal Hirael rhag llifogydd arfordirol, wrth i’r sefyllfa dwysáu wrth i lefel y môr godi oherwydd newid hinsawdd.

Bydd y prosiect yn diogelu 194 eiddo preswyl a busnes rhag y môr yn gorlifo yn ardal Hirael isaf.

Bydd Adran Ymgynghoriaeth Gwynedd y Cyngor yn rheoli’r prosiect ac yn darparu cymorth dylunio.

Mae cwmni Griffiths Construction wedi’u penodi i wneud y gwaith ar y safle.

Yr argyfwng hinsawdd

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi swm sylweddol o’r cyllid i Gyngor Gwynedd.

“Wrth i ni fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, rwy’n falch o fod yn darparu 85% o’r cyllid i Gyngor Gwynedd ar gyfer y gwaith hwn drwy ein Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol,” meddai Julie James, Ysgrifennydd Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth, bydd y gwaith yn mynd i’r afael â lefelau mor yn codi oherwydd newid hinsawdd i warchod y gymuned yn y dyfodol.

“Yn y tymor hir, bydd yn gwarchod 194 o dai a busnesau hefyd rhag llifogydd yn y dyfodol,” meddai wrth golwg360.

“Trwbwl ydy efo newid hinsawdd mae yna fwy o debygrwydd bydd yna llifogydd.

“Y syniad ydy amddiffyn y lle cyn i unrhyw lifogydd ddwad.

“Fel rydych yn gwybod mae lefelau mor yn codi o hyd.”

Anghyfleustra, er budd

Ymhellach, mae’r Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth, yn dweud y bydd y gwaith o fudd mawr i’r ardal er gwaetha’r anghyfleustra.

“Yn ogystal â gwella amddiffynfeydd rhag llifogydd, bydd y gwaith yn gwella edrychiad cyffredinol Hirael ac yn gwella adnoddau i gerddwyr a beicwyr,” meddai.

“Mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybr Beicio Cenedlaethol dafliad carreg o Hirael felly mae’r prosiect hwn yn gyfle gwych i wella cysylltiadau â’r ddau atyniad pwysig yma, gyda llwybr beic newydd yn rhedeg trwy ymyl maes parcio gorllewinol Lôn Glan Môr.

“Bydd y gwaith yn achosi rhywfaint o niwsans dros dro i drigolion a busnesau lleol gyda rhai ffyrdd a meysydd parcio ar gau ar adegau a bydd elfennau o’r gwaith yn gallu bod yn swnllyd.

“Mae’n ddrwg iawn gen i am yr anghyfleustra yma ac rwy’n diolch i bobl ymlaen llaw am eu hamynedd.

“Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i liniaru’r aflonyddwch gymaint ag y gallwn.”

Bydd dargyfeiriadau dros dro yn eu lle ar lwybrau troed a llwybrau beicio, a bydd Ffordd Glandŵr ar gau dros dro.

Bydd maes parcio dwyreiniol Lôn Glan Môr ar gau drwy gydol y gwaith a rhan o faes parcio gorllewinol Lôn Glan Môr hefyd ar gau am gyfnod.