Mae Joyce Watson, cadeirydd Cawcws Menywod y Senedd, yn dweud y bydd hi’n cadw cysylltiad â grŵp tebyg yn Iwerddon ar ôl i’r grŵp Cymreig gae ei lansio heddiw (dydd Mercher, Mehefin 7).

Cafodd y grŵp newydd ar gyfer menywod yn y Senedd ei sefydlu er mwyn gweithio tuag at sicrhau cydraddoldeb rhywedd a mwy o gyfleoedd i fenywod.

Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar drafod polisïau a chyfreithiau newydd, ac yn galluogi menywod i gefnogi ei gilydd ynghyd â’r menywod eraill maen nhw’n eu cynrychioli.

Bu Fiona O’Loughlin, Cadeirydd Cawcws Menywod Iwerddon, yn rhoi’r brif araith yn ystod y lansiad.

‘Dod â materion pwysig ynghyd’

“Mae’r cawcws yn ymwneud yn y lle cyntaf â dod â’r holl fenywod o bob plaid yn y Senedd at ei gilydd fel y gallwn ni ddod â materion ynghyd rydym yn cytuno sy’n bwysig i fenywod,” meddai Joyce Watson wrth golwg360.

“Y bwriad yw, nid yn unig cefnogi ein gilydd ond annog menywod eraill i leisio eu barn am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw hefyd.”

Dywed fod y grŵp eisiau canolbwyntio ar y meysydd lle nad yw menywod yn cael cymaint o gyfleoedd i gyfrannu neu le nad yw eu lleisiau i’w clywed mor aml.

“Gadewch i ni ddefnyddio cyllid a’r economi fel enghraifft,” meddai.

“Wrth gwrs, mae digon o fenywod yn y meysydd hyn, ond a ydyn ni’n clywed ganddyn nhw, ac a ydyn ni’n clywed am yr amrywiaeth sy’n bodoli yno?”

Trwy gydweithio â’i gilydd, ei gobaith yw y bydd y grŵp yn gallu annog mwy o fenywod i sefyll, naill ai ar gyfer swydd gyhoeddus neu o fewn llywodraeth leol, lle mae hi’n credu bod menywod yn cael eu “tangynrychioli’n fawr”.

‘Gwneud popeth trwy lens ehangach’

“Dw i’n meddwl, fel pob peth, pan rydyn ni’n siarad am gydraddoldeb rhywiol, nid dim ond am rifau rydyn ni’n siarad,” meddai.

“Os edrychwn ni ar niferoedd, wrth gwrs y byddech chi’n dweud ein bod ni’n gwneud yn eithriadol o dda o gymharu â’r mwyafrif o sefydliadau, deddfwrfeydd neu hyd yn oed gwledydd eraill.

“Rydym yn bymthegfed allan o 188 o wledydd o ran nifer y menywod sy’n cael eu hethol, ond mae angen mynd yn ddyfnach na hynny.

“Er enghraifft, rydym yn gwneud llawer iawn o waith o fewn y Pwyllgor Iechyd am iechyd menywod, ac mae’n hynod bwysig edrych ar hynny, dysgu ohono a gweld sut y gallwn ni barhau i wneud newidiadau positif.

“Mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth drwy lens ehangach.”

‘Llawer o waith i’w wneud’

Dywed Elin Jones, Llywydd y Senedd, ei bod hi’n bwysig “hybu a chefnogi cyfranogiad menywod mewn gwleidyddiaeth”.

“Ugain mlynedd ers i’r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd bryd hynny, fod y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd â chynrychiolaeth gyfartal o ddynion a menywod, rydyn ni’n gwybod fod llawer o waith i’w wneud o hyd i sicrhau Cymru gwbl gyfartal a chynhwysol.

“Yn rhyngwladol, mae cawcysau menywod wedi cyfrannu at ddeddfwriaeth sy’n hyrwyddo hawliau menywod ac wedi creu gofodau newydd i leisiau menywod gael eu clywed mewn dadleuon gwleidyddol.”

Dywed Fiona O’Loughlin ei bod hi’n “fraint” cael trafod y profiad Gwyddelig o bŵer a photensial cawcysau menywod.

“Bydd y Cawcws yn darparu ffordd ychwanegol ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb o fewn strwythurau gwleidyddol,” meddai.