Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg, wedi gwrthod gorchymyn gan Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg y dylai pob arwydd a dogfen yn ymwneud â meysydd parcio preifat fod yn ddwyieithog.
Yn ôl y gweinidog, byddai gwneud hynny’n rhy gymhleth ac y gallai achosi risg pa un ai’r Gymraeg neu’r Saesneg fyddai’n gyfreithiol gywir.
Daw’r ymateb yn dilyn cais gan Gwenith Price, y Dirprwy Gomisiynydd wrth weithredu cyn penodi’r Comisiynydd presennol, oedd yn nodi “…fod gan Weinidogion Cymru’r gallu i ddynodi ffurf a chynnwys arwyddion ar feysydd parcio, a hefyd y gallu i basio is-ddeddfwriaeth ynglŷn â ffurf neu gynnwys tystiolaeth i gyd-fynd â’r hysbysiadau ond hefyd, ac yn fwy pwysig, cynnwys yr hysbysiadau neu rybuddion eu hunain”.
“Gofynnwn i chi felly arfer eich pwerau o dan Atodlen 4 i greu is-ddeddfwriaeth i sicrhau fod arwyddion, tystiolaeth, ac unrhyw hysbysiadau a roddir gan gwmnïau parcio ynglŷn â chosbau parcio yn cael eu cyfathrebu yn ddwyieithog gydag unrhyw un sy’n wynebu cosbau o’r fath,” meddai wedyn.
‘Penderfynu peidio â bwrw ymlaen’
“Rwyf wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen i ddefnyddio pwerau o dan Atodlen 4 Deddf Diogelu Rhyddid 2012 i wneud dyletswyddau mewn perthynas â meysydd parcio preifat,” meddai Jeremy Miles.
“Er mwyn deddfu’n effeithiol yn y maes hwn rwyf wedi dod i’r casgliad y byddai angen i Weinidogion bennu’r union eiriad i’w defnyddio yn y Gymraeg a’r Saesneg ar arwyddion, hysbysiadau, a dogfennau cysylltiedig.”
Argymhelliad
“Os nad ydych yn fodlon arfer eich pwerau o dan Atodlen 4 ar eu pennau eu hunain, rydym hefyd yn cyfeirio at bwerau’r Comisiynydd i fynnu eich bod yn cymryd y camau hyn,” meddai’r Dirprwy Gomisiynydd.
“O ganlyniad, rwy’n gwneud argymhelliad dan adran 4(2)(h) Mesur y Gymraeg 2011 i Weinidogion Cymru fod yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth yn unol â’r pwerau sydd ar gael iddynt i orchymyn bod:Arwyddion ar feysydd parcio yn ogystal â ffurf neu gynnwys tystiolaeth i gyd-fynd â hysbysiadau yn ogystal âchynnwys yr hysbysiadau eu hunainyn ddwyieithog i’r perwyl o weld defnydd cyfartal o’r Gymraeg â’r Saesneg mewn arwyddion, hysbysiadau, dogfennau ac mewn gohebiaeth rhwng y cwmnïau a chwsmeriaid yng Nghymru, a bod cysondeb yn yr hyn a ellir ei ddisgwyl wrth ddefnyddio gwasanaethau meysydd parcio”.
‘Risg o sialensiau cyfreithiol’
“Am fod gan y dogfennau o dan sylw oblygiadau cyfreithiol ar y cyhoedd i dalu dirwyon, byddai deddfu i roi dyletswydd gyffredinol ar gwmnïau sy’n rhedeg meysydd parcio preifat i arddangos arwyddion dwyieithog a dyroddi dogfennau dwyieithog yn cario risg o sialensiau cyfreithiol ynghylch pa ffurf o eiriau (y Gymraeg neu’r Saesneg) sy’n gywir,” meddai Jeremy Miles.
Mae’r ohebiaeth rhwng Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg a’r Gweinidog yn dilyn cais am wybodaeth gan y Barnwr Merfyn Jones-Evans mewn achos llys sirol yng Nghaernarfon, lle dywedodd fod ei ddyfarniad yn dibynnu ar a oedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi gweithredu yn unol â’r pwerau a oedd ganddyn nhw i gynnwys meysydd parcio preifat yn y ddeddf am hawliau defnyddio’r Gymraeg.
Cyn yr achos, roedd disgwyl y bydd cwmni parcio preifat yn gorfodi Cymraes ifanc, sydd ddim yn dymuno cyhoeddusrwydd personol, i dalu £160 o gosb oherwydd ei bod wedi mynnu cael gohebiaeth am y gosb yn Gymraeg.
Cwmni SIP Parking Ltd gyflwynodd yr achos yn erbyn y wraig oedd wedi parcio dros yr amser y talodd hi amdano ger Traeth Lligwy nid nepell o Fenllech ar Ynys Môn fis Awst 2021.
Derbyniodd hi rybudd cosb uniaith Saesneg am £60, ac ymatebodd yn syth y byddai’n hollol barod i dalu unwaith y byddai’n derbyn cais dwyieithog gan y cwmni i wneud hynny.
Cafodd ei chais ei anwybyddu am fisoedd, a chafodd ei hysbysu fod y gosb wedi cynyddu i £100 ac yna i £160.
Pan fu i’r cwmni, Simple Intelligent Parking Ltd o Fanceinion, gydnabod o’r diwedd mai cais am lythyr rhybudd dwyieithog oedd y rheswm dros y gwrthod talu, cafodd y ddynes ei hysbysu nad oedd gorfodaeth gyfreithiol arnyn nhw i wneud dim yn Gymraeg.
Mae holl arwyddion cyhoeddus y cwmni ger Traeth Lligwy yn uniaith Saesneg.
Roedd hi’n ymddangos, felly, y byddai gan gwmnïau preifat rwydd hynt i hepgor y Gymraeg yn y dyfodol, ac i gosbi unrhyw unigolyn sy’n mynnu derbyn gohebiaeth Gymraeg cyn talu unrhyw ddirwy.
‘Synnu a siomi’
Eifion Lloyd Jones, cyn-Lywydd Llys yr Eisteddfod, oedd yn ymladd yr achos yng Nghaernarfon ar ran y ddynes ifanc.
Dywedodd ei fod wedi’i synnu a’i siomi gan ymateb Jeremy Miles.
“Mae’n anodd credu fod Gweinidog y Gymraeg yn dweud y ffasiwn beth – fod dwyieithrwydd yn rhy gymhleth!” meddai.
“Sut yn y byd mae unrhyw ddeddfwriaeth am y Gymraeg yn bosibl o ddilyn rhesymeg y Gweinidog? Peidiwch â chyfieithu dim byd rhag ofn iddo gael ei herio a’i gam-ddehongli.
“Mae’r peth yn anhygoel!”
Mae Eifion Lloyd Jones, sy’n aelod o fwrdd Dyfodol i’r Iaith, wedi bod yn herio awdurdodau lleol a chwmnïau preifat i weithredu’n ddwyieithog ers deugain mlynedd mewn meysydd parcio yn Yr Wyddgrug, Rhuthun, Dinbych a Llandudno.
Achos Traeth Lligwy oedd y tro cyntaf i gwmni fynd ag achos y bu’n ymgyrchu drosto i’r llys, a’r tro cyntaf y byddai’n rhaid talu cosb am yr herio.
Ei obaith oedd y byddai cais y Barnwr a gorchymyn Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg wedi arwain at weld diwedd cosbi Cymry am fynnu gohebiaeth Gymraeg.
Ond mae’n rhagweld y bydd y brwydro’n parhau am gyfnod eto.
“Dros hanner canrif yn ôl, ro’n i gerbron llys ym Môn am ddifrodi arwydd Saesneg,” meddai.
“Mae’n ymddangos y bydd rhaid paentio a malu eto os yw Gweinidog y Gymraeg o bawb bellach yn gwrthod cais rhesymol swyddfa’r Comisiynydd.
“Dyma golli cyfle euraid i gryfhau safle’r Gymraeg yn y gymdeithas, a dyma ymateb sarhaus sy’n tanseilio gwerth swydd y Comisiynydd.
“Rhag cywilydd y Gweinidog, ond gobeithio nad dyna ddiwedd y stori drist hon.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Fel llywodraeth, rydyn ni’n canolbwyntio ar weithredu mewn ffordd ystyrlon ac ymarferol i hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau bod pobol yn gallu defnyddio’r iaith yn eu bywyd bob dydd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydyn ni’n argymell y dylai Cod Ymarfer Parcio drafft Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynnwys canllawiau ynghylch defnyddio’r Gymraeg mewn meysydd parcio preifat.
“Byddai hyn yn gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n ehangach yn y maes, ac yn osgoi ar yr un pryd ganlyniadau anfwriadol deddfu, gan gynnwys yr anawsterau tebygol wrth weithredu deddfwriaeth barcio.”
Buddugoliaeth i’r Gymraeg
Mae’r barnwr yn y llys wedi gwrthod cais y cwmni parcio, gan osod cynsail cyfreithiol fydd yn sicrhau na all cwmni preifat erlid neb os nad yw arwyddion yn ddwyieithog.
“A ydi arwydd uniaith Saesneg yn ddigonol ac felly’n dderbyniol mewn unrhyw faes parcio, preifat neu beidio? Nac ydi,” meddai.