Mae Dr Altaf Hussain wedi codi pryderon ynglŷn â diffyg mannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol.
Yng Nghyfarfod Llawn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 7), fe wnaeth yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, ofyn bod Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod mannau gwyrdd ar gael yn hawdd mewn cymunedau trefol yng Nghymru.
Nododd fod mwy o drigolion Cymru wedi’u lleoli mewn trefi o gymharu â chefn gwlad erbyn hyn.
“Yn 2007, aeth y byd heibio carreg filltir hollbwysig; am y tro cyntaf erioed, roedd mwy o bobol yn byw mewn trefi a dinasoedd nag yng nghefn gwlad,” meddai.
“Yng Nghymru, mae dwy ran o dair ohonom yn byw mewn ardaloedd trefol.”
Galwodd ar Julie James, Ysgrifennydd Newid Hinsawdd Cymru, i sicrhau bod mannau gwyrdd ar gael i’r rheiny sydd yn byw yn yr ardaloedd hyn.
“Mae’n hanfodol i ni wneud popeth o fewn ein gallu i wella’r amgylchedd trefol,” meddai.
“Mae hynny’n golygu, nid yn unig mynd i’r afael â llygredd aer yn ein trefi a’n dinasoedd neu fynd i’r afael â’r broblem sy’n gysylltiedig â gollwng carthion i afonydd fel Tywi ac Ogwr, ond hefyd gwella mynediad i fannau gwyrdd yn ein hardaloedd trefol.
“Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i ddiogelu mannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol, a sicrhau bod gan bob cymuned fynediad parod a rhad ac am ddim i fannau o’r fath?”
Ystyried cymhellion ariannol
Yn ei hymateb, dywedodd Julie James fod y pwynt yn un “amlwg iawn yng nghanol ein menter Trawsnewid Trefi”.
Dywedodd fod angen sicrhau mathau o gymhellion ariannol er mwyn annog pobol i ddewis gerddi cynaliadwy.
Ar hyn o bryd mae angen caniatâd cynllunio i balmantu mewn amgylchedd trefol, ond dywedodd nad yw hyn yn cael ei orfodi a bod yn rhaid atgoffa awdurdodau lleol o’r rheolau hyn yn aml.
“Mae angen i ni ddod o hyd i ffordd gymdeithasol gynhwysol o wneud yn siŵr bod gan bobol fynediad at fannau gwyrdd, nid dim ond os ydych yn ddigon ffodus o fod â gardd,” meddai Julie James.
“Rydym angen gwneud yn siŵr bod gan bawb mewn ardal drefol fynediad at fath o fan gwyrdd parhaus.
“Yn syml, ni allwch wneud hynny drwy gael ardaloedd o laswellt wedi’u palmantu’n galed neu, yn wir, o laswellt artiffisial – nid yw hynny’n cynhyrchu’r un ansawdd yn yr amgylchedd.
“Byddwn yn bersonol yn edrych o ddifrif i weld a allem gynnal ymgyrch addysg i wneud pobol yn ymwybodol o’r problemau, ac edrych wedyn i weld a allwn ni ei gynnwys mewn gwaharddiad gwirioneddol.”