Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan a’r Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, wedi’i phenodi’n hyrwyddwr seneddol ar gyfer Wythnos Gofalwyr.
Yn dilyn ei phenodiad, mae hi’n annog ei hetholwyr i gefnogi ymgyrch sy’n galw am gymorth i ofalwyr di-dâl.
Yn ôl amcangyfrifon, mae’r cymorth mae gofalwyr yn ei ddarparu yng Nghymru a Lloegr gyda’i gilydd yn werth £162bn bob blwyddyn.
Eleni, yn sgil yr argyfwng costau byw, mae gofalwyr wedi wynebu pwysau digynsail ar eu harian, gyda chwarter y gofalwyr yn dweud eu bod nhw’n torri’n ôl ar hanfodion fel bwyd neu wres.
Mae elusennau sy’n cefnogi Wythnos Gofalwyr 2023 yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sefydlu Grŵp Gweinidogion trawsadrannol i ganolbwyntio ar y cymorth a’r gydnabyddiaeth sydd eu hangen ar ofalwyr.
‘Gwerth chweil a heriol’
“Gall gofalu am rywun fod yn brofiad hynod werth chweil a heriol, sy’n aml yn llawn anawsterau, gan gynnwys cael mynediad at y cymorth cywir pan fydd ei angen fwyaf,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae rôl amhrisiadwy gofalwyr di-dâl ar draws fy etholaeth a thu hwnt yn achubiaeth i’r rhai y maent yn gofalu amdanynt.
“Mae llawer o ofalwyr yn cael eu hysgogi gan ymdeimlad anhunanol o ddyletswydd, cyfeillgarwch a chariad, yn aml ar draul eu hiechyd a’u lles eu hunain.
“Y cyfan maen nhw ei eisiau yw darparu’r gofal gorau posib i’w hanwyliaid.
“Mae’r argyfwng costau byw wedi arwain at bwysau digynsail ar ofalwyr, gyda llawer yn brwydro i gael deupen llinyn ynghyd ac yn poeni am sut i ymdopi.
“Rwy’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wrando ar alwadau gan y rhai yn y sector gofal a sefydlu Grŵp Gweinidogol trawsadrannol i ganolbwyntio ar y gefnogaeth a’r gydnabyddiaeth sydd eu hangen ar ofalwyr.
“Rwy’n annog fy etholwyr yn Nwyfor Meirionnydd i ymuno â mi i ddiolch i bob gofalwr ar draws yr etholaeth am eu hymrwymiad di-ildio a’u hymdeimlad o ddyletswydd.
“Rwy’n gobeithio y gallwn ni i gyd gefnogi’r ymgyrch Wythnos Gofalwyr a brwydro am y gefnogaeth sydd ei hangen mor ddirfawr ar ein gofalwyr.”