Mae trefnwyr Gŵyl Gwenllïan yn dweud eu bod nhw eisiau gwneud pethau “ychydig bach yn wahanol eleni”, wrth iddyn nhw ddathlu merched y Carneddau.

Bydd y dathliad yn cael ei gynnal ym Methesda y penwythnos nesaf (Mehefin 10 ac 11), gyda gweithgareddau’n cynnwys trafodaethau a sgyrsiau gydag artistiaid ac awduron lleol, gweithdai celf i deuluoedd, teithiau tywys a llawer mwy.

Ers tua phedair blynedd, fe fu darlith flynyddol gan yr hanesydd Ieuan Wyn ar y dywysoges Gwenllïan, ond eleni eu bwriad yw dathlu llwyddiannau a chreadigrwydd merched cyfoes lleol gyda rhywbeth at ddant pawb.

“Yn amlwg mae Gwenllïan yn dywysoges Gymreig ac rydym eisiau cofio amdani hi,” meddai Meleri Davies, Prif Weithredwr Partneriaeth Ogwen, wrth golwg360.

“Dros y blynyddoedd, rydym wedi bod yn gwneud hynny bob mis Mehefin trwy gynnal Gŵyl Gwenllïan gyda darlith hanesyddol ac ychydig o weithgareddau cymunedol.

“Eleni, gwnaethon ni benderfynu bod ni eisiau gwneud rhywbeth ychydig bach yn wahanol a chynnal rhywbeth oedd yn dathlu merched, felly defnyddio Gwenllïan fel symbol i ddathlu llwyddiannau a chreadigrwydd merched yn ardal Dyffryn Ogwen.

“Roedden yn teimlo ei fod yn gyfle i wneud rhywbeth ffresh, yn lle bo ni ddim ond yn edrych ’nôl ar hanes ein bod ni’n edrych ar y cyfoeth o waith creadigol sy’n digwydd yn y dyffryn ac sy’n cael ei arwain gan ferched.

“Mae’r ŵyl eleni yn gyfle i ni gynnal sgyrsiau efo awduron benywaidd ac artistiaid benywaidd.

“Hefyd, rydym yn cynnal taith beics a thaith gerdded, ac yn amlwg mae’n agored i unrhyw un.”

Rhaglen lawn

Gyda chelfyddyd merched yn ganolog i’r ŵyl, mae cryn ddewis ac mae cynlluniau ar y gweill i ehangu ar hyn y flwyddyn nesaf hefyd.

Yn ôl Meleri Davies, bydd rhywbeth yn y rhaglen i unrhyw un “sydd efo diddordeb mewn llenyddiaeth gyfoes, gwaith celf cyfoes, neu rywun sydd eisiau ymlacio a mwynhau’r ardal”.

“Mae gennym awduron fel Alys Conran, Manon Steffan Ros, Annes Glyn ac Angharad Tomos yn cymryd rhan ar y prynhawn dydd Sadwrn,” meddai.

“Ar y prynhawn dydd Sul, mae gennym weithgareddau awyr agored.

“Mae gennym daith feicio efo cwmni Elinor Elis-Williams, sesiwn ioga i deuluoedd efo Leisa Mererid, wedyn mae gennym ni daith gerdded gwehyddu ar Foel Faban.

“I gloi, mae Sara Roberts am gynnal pererindod fach i ffynnon Llanllechid yn trafod y Santes Llechid.

“Mae yna rywbeth i bawb yn ystod y penwythnos.

“Eleni, digwydd bod, mae Neuadd Ogwen yn trefnu gig Pedair ar y nos Wener hefyd, felly mae’n teimlo fel bod llawer o bethau i ddathlu merched ar y penwythnos yma.

“Flwyddyn nesaf, rwy’n meddwl y bydd yr ŵyl yn tyfu ac rwy’n meddwl y byddwn yn cael cerddorion lleol i gymryd rhan hefyd; mae o’n fwriad i ni wneud o’n rywbeth blynyddol.”