Bydd rôl carbon glas wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd yn cael ei drafod yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 7).
Mae Janet Finch-Saunders, llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd carbon glas a morwellt wrth ymateb i’r argyfwng newid hinsawdd.
Dywed ei bod hi eisiau gweld ecosystemau morol yn cael eu trin â’r un flaenoriaeth ag ecosystemau ar y tir pan ddaw at gyrraedd targedau sero net.
“Mae coetiroedd a mawnogydd Cymru yn cael eu hystyried yn hanfodol i’n strategaeth garbon – mae’n rhaid i ni drin ecosystemau morol ac arfordirol nid yn unig yn yr un ffordd, ond gyda mwy o flaenoriaeth,” meddai.
“Gall ecosystemau morol ddal mwy o garbon fesul erw na choedwigoedd. Yn wir, mae metr sgwâr o forwellt yn dal deg gwaith y swm o laswelltiroedd!
“Rhaid i’r Llywodraeth Lafur gytuno i greu Cynllun Datblygu Morol Cenedlaethol i Gymru a Chynllun Adfer Carbon Glas Cenedlaethol.”
Dadl yn y Senedd
Daw sylwadau Janet Finch-Saunders wrth i’r mater gael ei drafod yng Nghyfarfod Llawn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 7).
“Yr wythnos hon, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi datgelu bod Cymru ar ei hôl hi o ran y camau sydd eu hangen i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd,” meddai.
“Felly nawr yw’r amser i ryddhau’r potensial carbon glas i Gymru.”
Beth yw carbon glas?
Yn ôl ymchwil gan y Senedd, cyfeiria carbon glas at garbon sy’n cael ei ddal a’i storio mewn ecosystemau arfordirol a llystyfiant morol, gan gynnwys morwellt.
Mae hyd at 92% o laswellt môr y Deyrnas Unedig wedi diflannu dros y ganrif ddiwethaf, yn ôl adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd, a Seilwaith Llywodraeth Cymru ar bolisïau morol.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae gallu’r môr i storio carbon yn adnodd hollbwysig er mwyn cyrraedd targedau sero net.
Beth yw’r awgrymiadau?
Yn ystod y Cyfarfod Llawn, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar y Llywodraeth i greu Cynllun Adfer Carbon Glas Cenedlaethol i Gymru er mwyn cynnal a gwella cynefinoedd carbon glas morol.
Byddan nhw hefyd yn galw am adeiladu ar lwyddiant Prosiect Morwellt, sef cydweithrediad rhwng Sky Ocean Rescue, WWF a Phrifysgol Abertawe sy’n ceisio adfer 20,000 metr sgwâr o forwellt, trwy blannu dros 750,000 o hadau ym Mae Dale yn Sir Benfro.
Yn olaf, byddan nhw’n galw am ddatblygu Cynllun Datblygu Morol Cenedlaethol Cymru sy’n dangos yn glir ble mae modd cynnal prosiectau carbon glas.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.