Mae rhieni wedi colli her gyfreithiol yn erbyn addysgu plant ifanc am hunaniaeth rhywedd a rhyw mewn ysgolion cynradd ledled Cymru, gyda Mrs Ustus Steyn yn gwrthod adolygiad barnwrol.

Lansiodd ymgyrchwyr adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys yn erbyn cwricwlwm addysg perthnasau a rhywioldeb newydd Llywodraeth Cymru.

Cafodd y cwricwlwm ei gyflwyno i bob ysgol gynradd ac i ddisgyblion ieuengaf ysgolion uwchradd Cymru ym mis Medi, a’r bwriad yw ei ehangu i ddisgyblion hyd at 16 oed.

Cyn hyn, roedd disgyblion ysgolion uwchradd yn cael cynnig gwersi addysg rhyw, ond roedd hawl gan rieni dynnu eu plant o’r gwersi.

Mae disgyblion bellach yn dechrau cael y gwersi pan yn dair oed, a dyw tynnu plentyn o’r wers ddim yn ddewis i rieni.

Cafodd yr her gyfreithiol ei chyflwyno gan Warchodaeth Plant Cymru, sy’n dweud bod y cwricwlwm newydd yn amhriodol ar gyfer plant oedran cynradd.

Y dadleuon

Mewn dadleuon ysgrifenedig, dywed Paul Diamond, fu’n cynrychioli’r hawlwyr, mai pum rhiant oedd yr hawlwyr – pedair mam ac un tad – gyda phlant yn amrywio mewn oedran o naw i bobol ifanc yn eu harddegau.

Mae rhai o’r plant yn mynychu ysgolion gwladol tra bod eraill wedi cael eu symud oherwydd pryderon am y cwricwlwm.

“Mae gan bob un o’r pum hawlydd wrthwynebiadau moesol ac athronyddol i’r cwricwlwm arfaethedig,” meddai Paul Diamond.

“Mae’r bwriad i addysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghymru yn peri pryder. “Nid ffeithiau am natur wyddonol ydynt, ond damcaniaethau dadleuol iawn sy’n ymwneud â dewisiadau moesol a wneir gan unigolion.”

Gwrthododd Jonathan Moffett KC, oedd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru, yr iaith sy’n cael ei defnyddio gan y rhai sy’n ei hawlio.

Dywedodd fod yr hawlwyr wedi methu â nodi “pa addysgu anghyfreithlon” y mae’r cwricwlwm newydd yn ei gynnwys ac yn hytrach yn “troi at honiadau di-sail”.

“Camwybodaeth”

“Rydym wedi bod yn glir mai bwriad Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yw diogelu plant a hyrwyddo parch a chydberthnasau iach,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru, wrth ymateb.

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen help ar ein plant i’w hamddiffyn rhag cynnwys  a phobl niweidiol ar-lein. Dylai Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb roi hyder i bobl ifanc ddweud ‘na’ wrth y bwlis, codi llais yn erbyn aflonyddu a deall bod teuluoedd o bob lliw a llun yn bodoli.

“Gall rhieni ddisgwyl bod eu plant yn cael addysg sy’n briodol i’w hoedran a’u lefelau aeddfedrwydd: bydd hyn yn ofyniad cyfreithiol.

“Rwyf am i rieni ddeall yr hyn sy’n cael ei addysgu a pha adnoddau a ddefnyddir; ac rwyf am i’r ysgolion gymryd yr amser i drafod hyn oll gyda’r rhieni. Bydd hyn yn gofyn am amser, amynedd a meithrin hyder.

“Gall rhieni ddisgwyl i ysgolion gyfathrebu â nhw am eu cynlluniau ar gyfer addysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, a dylai rhieni allu codi unrhyw gwestiynau adeiladol neu bryderon am y cynlluniau.

“Byddwn  yn cydweithio’n agos â’r ysgolion a chymunedau i sicrhau eu bod y cael eu clywed, a’u bod yn gwybod yn iawn beth fydd, a beth na fydd, yn cael ei addysgu i’w plant.

“Hoffwn nodi yn gyhoeddus bod y gamwybodaeth a ledaenwyd gan rai ymgyrchwyr yn gwbl waradwyddus.

“Mae wedi rhoi rhai ysgolion a’r gweithlu dan bwysau ychwanegol.

“Hoffwn ddweud wrth ein gweithlu addysg y byddwn yn eich cefnogi, a’n bod yn diolch i chi am eich cyfraniad at fywydau’r plant yr ydym yn addysgu.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r awdurdodau lleol ac ysgolion i’w cefnogi yn y gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm newydd ac yn eu helpu i gyfathrebu gyda rhieni, gofalwyr a chymunedau, gan gynnwys darparu adnoddau newydd ar gyfer addysgu a dysgu.

“Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.”