Fe allai streiciau gan weithwyr iechyd yng Nghymru yn 2023 gael eu hatal drwy gytundeb ystyrlon gan Lywodraeth Cymru, yn ôl UNSAIN.

Heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 22) mae’r undeb wedi cyhoeddi llythyr agored i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn galw am ateb i wyrdroi’r sefyllfa mae gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn awr yn ei hwynebu.

Daw’r llythyr gan Dominic MacAskill, Ysgrifennydd Rhanbarthol UNSAIN Cymru, yn dilyn pleidlais fawr gan weithwyr iechyd dros streicio gan UNSAIN ym mis Tachwedd a gafodd gefnogaeth mwy na 90% o’r rhai ymatebodd.

Roedd gweithredu diwydiannol gan weithwyr post a chyfreithiau llym yn erbyn undebau llafur yn golygu na chyrhaeddodd UNSAIN y trothwy ar gyfer streic yng Nghymru ond, bydd yr undeb yn cynnal pleidlais eto ar weithwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ym mis Ionawr wrth i gyflogau isel ac amodau gwaith gwael barhau i gael effaith.

Yn gynharach eleni, cafodd codiad cyflog o £1,400 ei gynnig i weithwyr iechyd yng Nghymru.

Dywed Dominic MacAskill nad oedd undebau llafur yn ymwneud â chynigion cyllideb ddrafft diweddaraf Llywodraeth Cymru, oedd yn cynnwys pecyn gwerth £460m o ryddhad ar drethi busnes.

Dilyn esiampl yr Alban

Mae Dominic McAskill yn teimlo y gallai gweithredu diwydiannol pellach gan weithwyr iechyd yng Nghymru gael ei atal pe bai Llywodraeth Cymru yn cymryd yr awenau.

“UNSAIN yw’r undeb iechyd mwyaf yng Nghymru ac mae’n galw am gytundeb gan Lywodraeth Cymru i osgoi gwaethygu gweithredu diwydiannol a cheisio canfod datrysiad,” meddai.

“Mae gwir angen i Gymru, fel yr Alban, ddefnyddio pwerau datganoli a dod o hyd i ateb Cymreig i osgoi cynnwrf pellach yn y Gwasanaeth Iechyd dros y gaeaf.

“Er na chyrhaeddom y trothwy angenrheidiol ar gyfer gweithredu diwydiannol yng Nghymru, roedd yr ymatebion a gawsom yn gwrthod yn llwyr argymhellion y corff adolygu cyflogau ac yn cefnogi gweithredu diwydiannol.

“Mae hyn yn dangos graddau teimladau’r gweithwyr iechyd sydd wedi blino’n barod yng Nghymru.”

“Dangosodd gweithwyr y sector cyhoeddus eu cefnogaeth mewn niferoedd enfawr i Lafur yn etholiadau diwethaf y Senedd ac mae’n siomedig, pan ddaw’n fater o wasgfa, nad yw datganoli i’w weld yn gwneud gwahaniaeth i gyflog y gweithwyr hynny,” meddai Jan Tomlinson, cynullydd UNSAIN Cymru.